Boutros Boutros-Ghali

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Boutros Boutros-Ghali
Naelachohanboutrosghali-2.jpg
6ed Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
Yn ei swydd
1 Ionawr 1992 – 31 Rhagfyr 1996
Rhagflaenwyd gan Javier Pérez de Cuéllar
Dilynwyd gan Kofi Annan
1af Ysgrifennydd Cyffredinol y Francophonie
Yn ei swydd
16 Tachwedd 1997 – 31 Rhagfyr 2002
Rhagflaenwyd gan Sefydlwyd y swydd
Dilynwyd gan Abdou Diouf
Gweinidog Materion Tramor
Dros dro
Yn ei swydd
17 Medi 1978 – 17 Chwefror 1979
Prif Weinidog Mamdouh Salem
Mustafa Khalil
Rhagflaenwyd gan Muhammad Ibrahim Kamel
Dilynwyd gan Mustafa Khalil
Yn ei swydd
17 Tachwedd 1977 – 15 Rhagfyr 1977
Prif Weinidog Mamdouh Salem
Rhagflaenwyd gan Ismail Fahmi
Dilynwyd gan Muhammad Ibrahim Kamel
Personal details
Ganwyd 14 Tachwedd 1922(1922-11-14)
Cairo, Brenhiniaeth yr Aifft
Bu farw 16 Chwefror 2016(2016-02-16) (93 oed)
Cairo, Yr Aifft
Plaid wleidyddol Undeb Sosialaidd Arabaidd (Cyn 1978)
Plaid Genedlaethol Ddemocrataidd] (1978–2011)
Annibynnol (2011–2016)
Priod Leia Maria Boutros-Ghali
Alma mater Prifysgol Cairo
Prifysgol Pantheon-Sorbonne
Sefydliad Astudiaethau Gwleidyddol, Paris

Gwleidydd a diplomydd o'r Aifft oedd Boutros Boutros-Ghali (14 Tachwedd 192216 Chwefror 2016) a fu'n Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (CU) rhwng Ionawr 1992 a Rhagfyr 1996. Roedd yn academydd a chyn Ddirprwy Weinidog Tramor yr Aifft, a goruchwyliodd y CU ar adeg pan oedd e'n trin sawl argyfwng o gwmpas y byd, yn cynnwys rhaniad Yugoslavia a Hil-laddiad Rwanda. Boutros-Ghali oedd Prif Ysgrifennydd cyntaf y corff Organisation internationale de la Francophonie rhwng Tachwedd 1997 a Rhagfyr 2002.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Boutros Boutros-Ghali yn Cairo ar 14 Tachwedd 1922 i deulu Cristnogol Coptaidd.[1] Roedd ei dad Yusuf Butros Ghali yn fab i Boutros Ghali, a oedd yn Brif Weinidog yr Aifft o 1908 hyd iddo gael ei lofruddio yn 1910.[2][3] Roedd ei fam Safela Mikhail Sharubim yn ferch i Mikhail Sharubim (1861–1920), gwas sifil a hanesydd blaenllaw.[4]

Graddiodd Boutros-Ghali Brifysgol Cairo yn 1946.[5] Derbyniodd PhD mewn Cyfraith Ryngwladol o Brifysgol Paris a diploma mewn cysylltiadau rhyngwladol o Sciences Po yn 1949. Rhwng 1949–1979, roedd yn Athro o Gyfraith Ryngwladol a Chysylltiadau Ryngwladol ym Mhrifysgol Cairo. Daeth yn Llywydd y Ganolfan Astudiaethau Gwleidyddol a Strategol yn 1975 a Llywydd y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol Affricanaidd yn 1980. Roedd yn Ysgolhaig Fulbright ym Mhrifysgol Columbia rhwng 1954 a 1955, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil yn Academi Cyfraith Ryngwladol yr Hague rhwng 1963 a 1964, ac Athro Gwadd yn Narlithfa'r Gyfraith ym Mhrifysgol Paris rhwng 1967 a 1968.

Rhagflaenydd:
Javier Pérez de Cuéllar
Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
1 Ionawr 199231 Rhagfyr 1996
Olynydd:
Kofi Annan

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Boutros Boutros-Ghali Biography, Encyclopedia of World Biography
  2. Reid, Donald M. (1982). "Political Assassination in Egypt, 1910–1954". The International Journal of African Historical Studies 15 (4): 625–651. doi:10.2307/217848. http://www.jstor.org/stable/217848. Adalwyd 14 January 2013.
  3. Goldschmidt 1993, pp.183,188
  4. Goldschmidt 1993 p.183
  5. Goshko, John M. (2016-02-16). "Boutros Boutros-Ghali, U.N. secretary general who clashed with U.S., dies at 93" (yn en-US). The Washington Post. ISSN 0190-8286. https://www.washingtonpost.com/world/boutros-boutros-ghali-un-secretary-general-who-clashed-with-us-dies-at-93/2016/02/16/8b727bb8-d4c1-11e5-be55-2cc3c1e4b76b_story.html.
Baner Yr AifftEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eifftiwr neu Eifftes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.