Stepan Bandera

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Stepan Bandera
SBandera.jpg
Ffotograff o Stepan Bandera, rhywbryd cyn 1934.
Ganwyd1 Ionawr 1909 Edit this on Wikidata
Staryi Uhryniv Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 1959 Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl, Awstria-Hwngari, di-wlad Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lviv Polytechnic Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolOrganization of Ukrainian Nationalists, Organization of Ukrainian Nationalists (Bandera movement) Edit this on Wikidata
TadAndriy Bandera Edit this on Wikidata
MamMyroslava Bandera Edit this on Wikidata
PriodJarosława Bandera Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Wladwriaeth (Iwcrain) Edit this on Wikidata
Llofnod
Stepan Bandera sign.svg

Cenedlaetholwr o'r Wcráin oedd Stepan Bandera (1 Ionawr 190915 Hydref 1959).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ef ym mhentref Uhryniv Staryi ar gyrion Stanyslaviv (bellach Ivano-Frankivsk, Wcráin) yn Nheyrnas Galisia a Lodomeria, Awstria-Hwngari, yn fab i offeiriad o Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, daeth bro Bandera dan reolaeth Gweriniaeth Gwlad Pwyl. Mynychodd y gymansiwm yn Stryi o 1919 i 1927, ac ym 1922, yn 13 oed, ymaelododd â'r gymdeithas sgowtio Plast. Astudiodd agronomeg yn Ysgol Bolytechnig Uwch Lviv o 1928 i 1932. Ymunodd â pharamilwyr y Sefydliad Milwrol Wcreinaidd (UVO), ac ym 1928 fe'i penodwyd i adrannau cudd-wybodaeth a phropaganda y mudiad hwnnw. Ym 1929 ymunodd hefyd â Sefydliad y Cenedlaetholwyr Wcreinaidd (OUN), a daeth yn aelod o Adran Weithredol Diriogaethol Gorllewin Wcráin yr OUN ym 1931.[1]

Gweithredu yn yr 1930au[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghynhadledd yr OUN ym Merlin ym Mehefin 1933, dyrchafwyd Bandera yn bennaeth ar yr OUN yng Ngorllewin Wcráin (rhan o'r wlad oedd o dan reolaeth Gwlad Pwyl ac nid yr Undeb Sofietaidd nes wedi'r Ail Ryfel Byd.

Yn y cyfnod hwn, cynlluniodd ac arweiniodd ymgyrch ymhlith myfyrwyr Wcreinaidd yn erbyn Pwyleiddio yn ardal Lviv. Gorchmynnodd Bandera i Mykola Lemyk lofruddio Alexei Mailov, conswl yr Undeb Sofietaidd yn Lviv, yn Hydref 1933 mewn ymateb i'r newyn a achoswyd yn fwriadol yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd (GSS) Wcráin. Yn unol â phenderfyniad gan y gynhadledd ym Merlin, cynllwyniodd Bandera hefyd i lofruddio'r Gweinidog Cartref, Bronisław Pieracki, un o wleidyddion blaenaf Gwlad Pwyl yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, i dalu'r pwyth yn ôl am y polisi o "heddychu" y boblogaeth Wcreinaidd yn Nwyrain Galisia ym 1930. Wedi saethu Pieracki gan Hryhorij Maciejko ym Mehefin 1934, arestiwyd Bandera a chafodd ei roi ar brawf gyda sawl arweinydd arall o'r OUN yn Warsaw. Fe'i cafwyd yn euog a disgwylid iddo gael ei ddienyddio, ond câi'r dedfryd ei newid i garchar am oes yn sgil ail dreial yn Lviv ym 1936.[1] Carcharwyd Bandera gydag arweinwyr eraill yr OUN yng Ngharchar y Groes Sanctaidd yn Warsaw, a fe'i symudwyd yna i Garchar Wronki yng ngorllewin Gwlad Pwyl.

Yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn sgil Cytundeb Molotov–Ribbentrop yn Awst 1939 sgil goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen Natsïaidd ym Medi 1939. Rhyddhawyd Bandera o'r carchar, a dychwelodd i Lviv — a ymgorfforwyd bellach yn rhan o GSS Wcráin yn rhan o'r Undeb Sofietaidd — i gydlynu gweithgareddau'r OUN ar draws Wcráin.

Gwrthododd Bandera a'i ddilynwyr gydnabod etholiad Andrii Melnyk yn bennaeth ar yr OUN, a chafwyd rhwyg rhwng yr OUN-M, dan arweiniad Melnyk, a'r OUN-B (neu'r OUN Chwyldroadol), a sefydlwyd yn Kraków yn Chwefror 1940. Etholwyd Bandera yn arweinydd yr OUN Chwyldroadol yn ffurfiol yn Ebrill 1941, a byddai'r mwyafrif o finteioedd a oedd wedi hen sefydlu yn ymlynu wrth arweinyddiaeth Bandera. Ceisiodd yr OUN-B fanteisio ar gythrwfl yr Ail Ryfel Byd, drwy gydweithio â'r Almaen Natsïaidd, i hawlio gwladwriaeth annibynnnol i'r Wcreiniaid. Ar 30 Mehefin 1941, yn Lviv, datganwyd annibyniaeth Wcráin gan Bandera a'i ddilynwyr a sefydlwyd llywodraeth genedlaethol dan y Prif Weinidog Yaroslav Stetsko.[1] Er iddo addo i ymgynghreirio â'r Almaen, gorchmynnwyd i Bandera ddiddymu'r datganiad annibyniaeth gan y Natsïaid, ac wedi iddo wrthod fe'i arestiwyd gan y Gestapo yng Ngorffennaf 1941. Fe'i carcharwyd yng ngwersyll crynhoi Sachsenhausen am ddwy flynedd.

Wrth i'r Almaen golli tir i'r lluoedd Sofietaidd yn y dwyrain, rhyddhawyd Bandera gan y Natsïaid ar 25 Medi 1944, yn y gobaith y byddai'n gallu trefnu gwrthsafiad Wcreinaidd yn erbyn y Fyddin Goch. Wedi diwedd y rhyfel, ymsefydlodd Bandera gyda'i deulu yng Ngorllewin yr Almaen ac yno parhaodd yn arweinydd yr OUN-B ac yn weithgar mewn mudiadau gwrth-gomiwnyddol. Llofruddiwyd Stepan Bandera gan Bohdan Stashynsky, asiant o'r KGB, ym München ym 1959, yn 50 oed.

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae enw Bandera yn hynod o ddadleuol yn Wcráin a Gwlad Pwyl.

Fe'i fawrygir gan nifer o Wcreiniaid, yn enwedig yng ngorllewin y wlad, fel gwladgarwr a fu'n brwydro dros annibyniaeth ei genedl, ac yn symbol o genedlaetholdeb Wcreinaidd a gwrthsafiad i ddarostyngiad yr Wcreiniaid yng Ngweriniaeth Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd fel ei gilydd. Yn 2010 gwobrwywyd iddo urdd Arwr Wcráin gan yr Arlywydd Viktor Yushchenko, gwobr a ddiddymwyd yn ddiweddarach ar y sail nad oedd Bandera erioed yn ddinesydd Wcreinaidd. Mae nifer o Wcreiniaid eraill, yn bennaf yn nwyrain a de-ddwyrain y wlad, yn ystyried Bandera yn fradwr i frwydr GSS Wcráin yn erbyn yr Almaen Natsïaid.[2][3] Yng Ngwlad Pwyl, cyhuddir Bandera o fod yn gyfrifol am gyflafanau gan Fyddin y Gwrthryfelwyr Wcreinaidd (UPA) yn erbyn Pwyliaid yn Volyn a Dwyrain Galisia o 1943 i 1945.[4] Er yr oedd Bandera wedi ei garcharu am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwnnw, un o amcanion yr OUN-B oedd i gael gwared â phoblogaethau nad oeddynt yn Wcreiniaid o wladwriaeth Wcreinaidd annibynnol, ac felly câi mudiad Bandera ei feio yn hanesyddol am sbarduno'r glanhau ethnig hyn. Oherwydd ei weithgareddau yn ystod yr Ail Ryfel Byd — cydweithio â'r Natsïaid ac annog "puro" Wcráin rhag Pwyliaid — portreadir Bandera gan rai yn ffasgydd, yn droseddwr rhyfel, yn hilydd gwrth-Bwylaidd ac yn wrth-Semitydd, ac yn derfysgwr hil-leiddiol.[5]

Rhyfel Rwsia ar Wcráin 2022[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn sgil rhyfel Rwsia ar Wcráin yn 2022 gellid dadlau bod newid, neu ailasesiad, wedi bod o waddol Bandera. Gyda Rwsia yn elyn oedd yn bomio a lladd dinasyddion di-euog ar draws dinasoedd Wcráin, collodd peth o bropaganda Sofietaidd a Rwsiaidd yr oedd sefydliadau Putin wedi eu defnyddio ers degawdau, golli eu hawch. Yn ôl Ruslan Martsinkiv, Maer dinas Ivano-Frankivsk, bod ymosodiadau Arlywydd Rwsia wedi uno'r genedl a "bod Wcráin oll yn Bandera nawr".[6]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 37–38.
  2. (Saesneg) "Bandera: Ukraine’s national hero or traitor?", RT (18 Chwefror 2010). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Ebrill 2022.
  3. (Saesneg) "15,000 Ukraine nationalists march for divisive Bandera", USA Today (1 Ionawr 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Tachwedd 2018.
  4. (Saesneg) Emil Filtenborg a Stefan Weichert, "Controversy as Ukraine mulls giving hero status to alleged war criminals ", Euronews (4 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Ebrill 2022.
  5. (Saesneg) Emil Filtenborg, "In Ukraine, Stepan Bandera’s legacy becomes a political football... again", Euronews (26 Mawrth 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Mawrth 2022.
  6. "A Ukrainian mayor, Russian missiles and the ghost of controversial Second World War nationalist". Gwefan Global News Canada. 11 Mawrth 2022.