Ban Ki-moon

Oddi ar Wicipedia
Ban Ki-moon
반기문/潘基文
Ban Ki-moon


Cyfnod yn y swydd
1 Ionawr, 2007 – 31 Rhagfyr, 2016
Rhagflaenydd Kofi Annan
Olynydd Antonio Guterres

Geni (1944-06-13) 13 Mehefin 1944 (79 oed)[1]
Eumseong, Chungcheongbuk-do
Cenedligrwydd Baner De Corea De Corea
Priod Yoo Soon-taek
Alma mater Prifysgol Genedlaethol Seoul

Ysgrifennydd Cyffredinol cyfredol y Cenhedloedd Unedig yw Ban Ki-moon (ganwyd 13 Mehefin, 1944 yn Eumseong, De Corea; Coreëg: 반기문/潘基文).

Cyn dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol, diplomydd yng Ngweinyddiaeth Materion Tramor De Corea ac yn y Cenhedloedd Unedig oedd Ban. Ymunodd â'r gwasanaeth diplomyddol y flwyddyn y graddiodd o brifysgol, a derbyniodd ei swydd gyntaf yn Delhi Newydd. Yn y weinyddiaeth dramor enillodd enw da am fod yn ddiymhongar a chymwys wrth ei waith.

Gweinidog Tramor De Corea o Ionawr 2004 i Dachwedd 2006 oedd Ban. Yn Chwefror 2006 dechreuodd ymgyrchu am swydd yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Yn gychwynnol ni ystyrid Ban yn gystadleuydd oedd yn debygol o ennill y swydd. Ond fel gweinidog tramor De Corea llwyddodd i deithio i bob un o aelod-wladwriaethau Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gweithred a'i roddodd ar flaen y ras am y swydd.

Ar 13 Hydref 2006, fe'i etholwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fel yr wythfed Ysgrifennydd Cyffredinol. Ar 1 Ionawr, 2007, olynodd Kofi Annan, a phasiodd nifer o ddiwygiadau o bwys ynghylch cadw heddwch ac ymarferion cyflogi y CU. Yn ddiplomyddol mae Ban wedi cymryd safbwyntiau cryf iawn ar gynhesu byd-eang, trwy godi'r mater drosodd a throsodd gyda George W. Bush, Arlywydd yr Unol Daleithiau, a'r Rhyfel yn Darfur, lle chwaraeodd rhan mewn darbwyllo Omar al-Bashir, Arlywydd Swdan, i ganiatáu luoedd cadw heddwch i mewn i'r wlad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Rhagflaenydd:
Kofi Annan
Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
1 Ionawr, 200731 Rhagfyr 2016
Olynydd:
Antonio Guterres