Dydd Calan

Oddi ar Wicipedia
Gall Calan hefyd gyfeirio at y dydd cyntaf o'r mis: Calan Mai, Calan Gaeaf

Dydd Calan yw'r enw ar gyfer diwrnod cyntaf y flwyddyn, sef 1 Ionawr. Gall y gair "calan" hefyd gyfeirio at ddydd cyntaf mis. Arferid credu nifer o goelion a oedd yn berthnasol i'r diwrnod cyntaf o'r flwyddyn e.e. arwyddocâd y person cyntaf i ddod dros trothwy'r drws. Ym Mhenfro aethpwyd â dŵr o gwmpas y tai i'w ddiferyd dros y trigolion i sicrhau hapusrwydd am weddill y flwyddyn. Roedd hel calennig yn arferiad drwy Gymru benbaladr. Mewn ardaloedd eraill yr arferiad oedd i ddyn penddu ymweld â'r tŷ efo darn o lo; deuai hyn â lwc dda i'r trigolion.

Yn 1752 newidiwyd y dyddiad i'r un presennol; cyn hynny diwrnod cynta'r flwyddyn oedd 13 Ionawr[1]. Mae rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r Hen Galan e.e. Cwm Gwaun a Llandysul ar sail yr hen galendr Iwlaidd gafodd ei ddisodli ym 1752 gan galendr Gregori.[2]

Penillion[golygu | golygu cod]

Dyma rai penillion sy’n cael eu canu ar 13 Ionawr:

Mae dydd Calan wedi gwawrio
Dydd tra hynod yw i gofio,
Dydd i roddi, dydd i dderbyn,
Yw’r trydydd dydd ar ddeg o’r flwyddyn.
Rhowch yn hael i rai gwael,
Rhowch yn hael i rai gwael,
Pawb sy’n ffyddlon i roi rhoddion
Yw’r rhai hynny sydd yn cael.[3]

Tarddiad y gair "Calan"[golygu | golygu cod]

Mae'r gair "calan" yn dod o'r gair Lladin calendae "y galwedig", yr enw ar gyfer diwrnod cyntaf pob mis yn y calendr Rhufeinig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan er gwaetha'r tywydd; adalwyd 05/101/2013
  2. Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan o hyd ; adalwyd 05/01/2013
  3. Gwefan Bro Waldo Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.; Yr Hen Galan; adalwyd 05/01/2013

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]