Johann Christian Bach

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Johann Christian Bach
Johann Christian Bach by Thomas Gainsborough.jpg
Ganwyd 5 Medi 1735 Edit this on Wikidata
Leipzig Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Ionawr 1782 Edit this on Wikidata (46 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Almaen Yr Almaen Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth cyfansoddwr, cerddor, pianydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Lucio Sila Edit this on Wikidata
Arddull opera, symffoni Edit this on Wikidata
Tad Johann Sebastian Bach Edit this on Wikidata
Mam Anna Magdalena Bach Edit this on Wikidata
Priod Cecília Grassi Edit this on Wikidata
Llinach teulu Bach Edit this on Wikidata

Roedd Johann Christian Bach (5 Medi, 17351 Ionawr, 1782) yn Gyfansoddwr Almaenig o'r oes Glasurol. [1] Roedd yn ddeunawfed plentyn Johann Sebastian Bach, a'r ieuengaf o'i un mab ar ddeg. [2] Ar ôl cyfnod yn yr Eidal, symudodd Bach i Lundain ym 1762, [3] lle daeth yn adnabyddus fel "The London Bach". [4] Weithiau mae'n cael ei adnabod fel "y Bach Seisnig", ac yn ystod ei amser yn byw yn Llundain, daeth i gael ei adnabod fel John Bach. Mae'n nodedig am chwarae rôl wrth ddylanwadu ar arddulliau concerto Haydn a Mozart .

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Johann Christian Bach i Johann Sebastian ac Anna Magdalena Bach yn Leipzig, yr Almaen. Roedd ei dad enwog eisoes yn 50 oed adeg ei eni - bwlch oedran sy'n cael ei amlygu gan y cyferbyniad llwyr rhwng arddulliau cerddorol y tad a'r mab. Er hynny, cyfarwyddodd y tad Bach Johann Christian mewn cerddoriaeth hyd at ei farwolaeth ym 1750. [5] Ar ôl marwolaeth ei dad, bu’n gweithio (ac yn byw) gyda’i hanner brawd ail hynaf Carl Philipp Emanuel Bach, [5] a oedd yn un mlynedd ar hugain yn hŷn nag ef ac a ystyriwyd, ar y pryd, fel y mab mwyaf dawnus yn gerddorol o holl feibion Bach.

Mwynhaodd yrfa addawol, yn gyntaf fel cyfansoddwr ac yna fel perfformiwr yn chwarae ochr yn ochr â Carl Friedrich Abel, chwaraewr nodedig y fiola da gamba . Cyfansoddodd cantatau, cerddoriaeth siambr, gweithiau bysellfwrdd a cherddorfaol, operâu a symffonïau.

Aeth Bach i fyw i'r Eidal ym 1750 gan aros yno nifer o flynyddoedd. [2] Bu'n astudio yno gyda Padre Martini yn Bologna. Daeth yn organydd yn eglwys gadeiriol Milan ym 1760. Yn ystod ei gyfnod yn yr Eidal, trodd o Lutheriaeth i Gatholigiaeth ac fe neilltuodd lawer o amser i gyfansoddiad cerddoriaeth eglwysig, gan gynnwys cerddoriaeth ar gyfer Offeren Requiem a Te Deum. [6] Ei waith mawr cyntaf oedd Offeren, a gafodd berfformiad a chlod rhagorol ym 1757. Ym 1762, teithiodd Bach i Lundain i première tair opera yn Theatr y Brenin, gan gynnwys Orione ar 19 Chwefror 1763. Ym 1764 neu 65 creodd y castrato Giusto Fernando Tenducci, a ddaeth yn ffrind agos, rôl y teitl yn ei opera Adriano yn Siria. [7]

Sefydlodd ei enw da yn Lloegr, a daeth yn feistr cerdd i'r Frenhines Charlotte. Ym 1766, cyfarfu Bach â'r soprano Cecilia Grassi, a oedd yn un mlynedd ar ddeg yn iau na fo, a'i phriodi yn fuan wedi hynny. Ni fu iddynt blant. Perfformiodd JC Bach symffonïau a chyngherddau yn yr Hanover Square Rooms ar gornel Sgwâr Hanover a Hanover Street. Hwn oedd prif leoliad cyngerdd Llundain yng nghanol y Mayfair ffasiynol. Roedd y cartrefi Sioraidd cyfagos yn cynnig cwsmeriaid da ar gyfer ei berfformiadau. Roedd un o brif gylchoedd llenyddol Llundain a oedd yn cynnwys Jane Timbury, Robert Gunnell, Yr Arglwydd Beauchamp, a Duges Buccleuch, ymysg eraill, yn gyfarwydd â Bach ac yn fynychwyr rheolaidd yn ei ddigwyddiadau.

Erbyn diwedd y 1770au, roedd ei boblogrwydd a'i gyllid yn dirywio. Erbyn marwolaeth Bach ar Ddydd Calan 1782, [8] roedd wedi mynd mor ddyledus (yn rhannol oherwydd ei stiward yn ysbeilio ei arian), nes i'r Frenhines Charlotte gamu i'r adwy i dalu treuliau'r ystâd a darparu pensiwn am oes i'w Gweddw. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Hen Eglwys St Pancras, Llundain.

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhoddir disgrifiad llawn o yrfa JC Bach ym mhedwaredd gyfrol History of Music Charles Burney .

Mae dau arall o'r enw Johann Christian Bach yng ngardd achau'r teulu Bach, ond nid oedd y naill na'r llall yn gyfansoddwr.

Ym 1764 cyfarfu Bach â Wolfgang Amadeus Mozart, a oedd yn wyth oed ar y pryd ac a oedd ar ymweliad i Lundain efo'i dad. [9] Yna treuliodd Bach bum mis yn dysgu cyfansoddi i Mozart. Mae Bach yn cael ei ystyried gan lawer fel un a chafodd dylanwad cryf ar y Mozart ifanc, gydag ysgolheigion fel Téodor de Wyzewa a Georges de Saint-Foix yn ei ddisgrifio fel "Unig wir athro Mozart". Trefnodd Mozart dair sonata o Opws 5 Bach fel concertos bysellfwrdd, ac yn ddiweddarach mewn bywyd roedd Mozart "yn aml yn cydnabod y ddyled artistig roedd ganddo iddo" i Johann Christian. [10] Ar ôl clywed am farwolaeth Bach ym 1782, dywedodd Mozart, "Am golled i'r byd cerddorol!" [11]

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhoddir rhifau 'W' i weithiau J.C. Bach, o gatalog Thematig Ernest Warburton o'i weithiau (Dinas Efrog Newydd: Garland Publishing, 1999). Mae cyfansoddiadau Bach yn cynnwys un ar ddeg o operâu, [2] yn ogystal â cherddoriaeth siambr, cerddoriaeth gerddorfaol a chyfansoddiadau ar gyfer cerddoriaeth bysellfwrdd. [5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Bach, Johann Christian (1735–1782), composer". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/37137. Cyrchwyd 2020-10-18.
  2. 2.0 2.1 2.2 Bagnoli, Giorgio (1993). The La Scala Encyclopedia of the Opera. Simon and Schuster. t. 38. ISBN 9780671870423.
  3. Burnett, Henry (2017). Composition, Chromaticism and the Developmental Process: A New Theory of Tonality. Routledge. t. 211. ISBN 9781351571333.
  4. Siblin, Eric (2011). The Cello Suites: J. S. Bach, Pablo Casals, and the Search for a Baroque Masterpiece. t. 234. ISBN 9780802197979.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Johann Christian Bach". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 3 Medi 2017.
  6. "The Catholic Bach", Cantica Nova Publications
  7. Baldwin, Olive; Wilson, Thelma (2004). "Tenducci, Giusto Ferdinando". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/67196.(angen tanysgrifiad)
  8. "Johann Christian Bach | Biography, Albums, Streaming Links". AllMusic. Cyrchwyd 2020-10-18.
  9. Shore, Rebecca Ann (2002). Baby Teacher: Nurturing Neural Networks From Birth to Age Five. R&L Education. t. 86. ISBN 9781461648079.
  10. Denis Arnold a Basil Smallman], "Bach family", yn Oxford Companion to Music, gol. Alison Latham, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002, tud. 80. ISBN 978-0-19-866212-9
  11. Mersmann, Hans (1972). Letters of Wolfgang Amadeus Mozart. New York: Dover Publications. t. 194. ISBN 0-486-22859-2.