Josef Haydn
Gwedd
| Josef Haydn | |
|---|---|
| Ganwyd | 31 Mawrth 1732 Rohrau |
| Bu farw | 31 Mai 1809 Fienna |
| Dinasyddiaeth | Archddugiaeth Awstria, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
| Addysg | Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth |
| Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd, cerddolegydd, pianydd |
| Swydd | côr-feistr |
| Adnabyddus am | Symphony No. 100, Symphony No. 101, Das Lied der Deutschen |
| Arddull | cerddoriaeth glasurol |
| Prif ddylanwad | Johann Joseph Fux |
| Mudiad | clasuriaeth |
| Tad | Mathias Haydn |
| Priod | Anna Haydn |
| Gwobr/au | honorary citizen of Vienna |
| llofnod | |
Cyfansoddwr o Awstria oedd Franz Josef Haydn (31 Mawrth 1732 – 31 Mai 1809). Roedd yn un o brif gyfansoddwyr y cyfnod clasurol. Treuliodd y rhan helaethaf o'i yrfa fel cerddor llys i'r teulu cyfoethog Eszterhazy gerllaw dinas Eisenstadt.
Cafodd ei eni yn Rohrau, yn Awstria ger ffin Hwngari. Roedd yn frawd i Michael Haydn, a oedd hefyd yn gyfansoddwr, ac i Johann Evangelist Haydn, a oedd yn denor.
Roedd ei dad Matthias Haydn yn gerddor gwerin brwd a dysgodd ei hun i ganu'r delyn. Roedd ei rieni wedi deall fod yna dalent yn eu mab, ac felly fe gytuno nhw ei fod yn mynd i fyw gyda perthynas iddyn nhw, Mattias Franck, ysgolfeistr a chorfeistr yn Hainburg rhyw ddeg milltir i ffwrdd, ac yntau ond yn chwech oed.
Cerdd
[golygu | golygu cod]- Symffoni rhif 22 ("Yr Athronydd")
- Symffoni rhif 45 ("Ffarwel")
- Symffoni rhif 92 ("Rhydychen")
- Symffoni rhif 104 ("Llundain")
- Symffoni rhif 105 ("Sinfonia Concertante")
- Y Creadigaeth (oratorio)
- Offeren rhif 9 ("Nelson")