Neidio i'r cynnwys

Mauretania Caesariensis

Oddi ar Wicipedia
Mauretania Caesariensis
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
PrifddinasCaesarea of Mauretania Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.5°N 2.5°E Edit this on Wikidata
Map

Roedd Mauretania Caesariensis yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig yng ngogledd Affrica, yn cyfateb yn fras i ogledd Algeria heddiw.

Talaith Mauretania Caesariensis yn yr Ymerodraeth Rufeinig tua 125 OC

Roedd y Groegiaid a'r Rhufeiniaid yn adnabod y rhan orllewinol o Ogledd Affrica fel Mauretania. O'r 7c CC daeth yr ardal dan ddylanwad y Ffeniciaid o ddinas Carthago. Wedi i Carthago gael ei gorchfygu gan Rufain daeth dan ddylanwad Rhufeinig, ac yn y rhyfel cartref Rhufeinig rhwng Iŵl Cesar a Pompeius cefnogodd y brenin Bochus II Iŵl Cesar.

Yn y 30au CC meddiannwyd y diriogaeth gan y Rhufeiniaid. Dan yr ymerawdwr Claudius rhannwyd Mawritania yn ddwy dalaith, Mauretania Caesariensis a Mauretania Tingitana.

Taleithiau Mauretania Caesariensis a Mauretania Tingitiana