Neidio i'r cynnwys

Mauretania (talaith)

Oddi ar Wicipedia
Mauretania a Numidia

Talaith Rufeinig yng ngogledd Affrica oedd Mauretania.

Yn y gorllewin roedd Mauretania'n cyffwrdd y Môr Iwerydd, yn y gogledd wynebai'r Môr Canoldir, yn y dwyrain rhannai ffin â'r Numidia Rufeinig ac yn y de rhannai ffin â theyrnas y Getulii. Daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn ystod teyrnasiad yr ymerodr Claudius. Fe'i enwir ar ôl y llwyth brodorol, y Mauri (enw sy'n rhoi'r enw diweddar Mwriad neu Moor).

Cafodd ei rhannu'n ddwy is-dalaith, Mauretania Tingitana a Mauretania Caesariensis.


Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato