Volubilis

Oddi ar Wicipedia
Volubilis
Delwedd:Volubilis,Morocco.jpg, Volubilis 1990.jpg
Mathanheddiad dynol, safle archaeolegol, dinas hynafol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
SirOualili Edit this on Wikidata
GwladMoroco Edit this on Wikidata
Arwynebedd42 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.0711°N 5.5536°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, Treftadaeth ddiwylliannol Moroco Edit this on Wikidata
Manylion

Safle hen ddinas Rufeinig ym Moroco yw Volubilis (Arabeg وليلي Oualili), a leolir ger Meknes rhwng Fez a Rabat. Moulay Idriss yw'r dref agosaf. Yn Volubilis ceir rhai o'r gweddillion Rhufeinig gorau yng Ngogledd Affrica. Yn 1997 rhoddwyd y safle ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Lleolid Volubilis ar ffin orllewinol y tiriogaethau Rhufeinig yng ngogledd Affrica. Tyfodd i fod yn ddinas bwysig. Cafodd ei sefydlu tua OC 40, yn fwy na thebyg ar safle tref Carthagaidd gynharach. Daw'r enw o'r enw Berber Alili (Oleander).

Volubilis oedd canolfan weinyddol y dalaith Rufeinig Mauretania Tingitana. Roedd y tir o'i chwmpas yn ffrwythlon a'r cnydau'n cynnwys grawn ac olew olewydd a allforid i Rufain.

Er i'r Rhufeiniaid dynnu allan o'r rhan fwyaf o orllewin Mauretania yn y 3g, parhaodd Volubilis yn ddinas Rufeinig. Ymddengys iddi gael ei dinistrio gan daeargryn ar ddiwedd y 4g a chael ei ymsefydlu o'r newydd yn y 6g gan grŵp bach o Gristnogion (darganfuwyd eu beddrodau sydd ag arywgrifau Lladin arnynt). Pan gyrhaeddodd y brenin Abassid Idris I yn 788 roedd y dref ym meddiant llwyth yr Awraba.