Ieithoedd Berber

Defnyddir y term ieithoedd Berberaidd am nifer o ieithoedd yn perthyn i deulu yr ieithoedd Affro-Asiaidd, a siaredir yn bennaf yn y Maghreb, gogledd Affrica gan y Berberiaid.
Ar un adeg ieithoedd Berberaidd yn cael ei siarad o Foroco yn y gorllewin i Ddiffeithwch Libia yn y dwyrain. Ildiodd yr ieithoedd hyn dir yn raddol yn sgîl y concwest Arabaidd yn y 6g. Eu cadarnleodd erbyn heddiw yw Moroco a rhannau o Algeria. Ceir ychydig o siaradwyr Berbereg yng ngorllewin Tiwnisia yn ogystal. Mae rhai pobl yn dal i siarad tafodiaith Ferberaidd ynysig yn ngwerddon Siwa, gorllewin Yr Aifft.
Llên a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Am ganrifoedd roedd llenyddiaeth Ferberaidd yn llenyddiaeth lafar yn bennaf. Mae'n gyfoethog mewn chwedlau llên gwerin ac mae ganddi draddodiad barddol hynafol sy'n dal i flodeuo heddiw. Un o feirdd mwyaf nodedig yr iaith Ferberaidd yw'r Berber o Algeria, Si Muhand U M'hand (tua 1845 - 1905).