Meknès
![]() | |
![]() | |
Math |
dinas, urban commune of Morocco, dinas fawr, prefecture of Morocco ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
520,428 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Abdellah Bouanou ![]() |
Gefeilldref/i |
Reims, Almaty, Nîmes ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Meknès Prefecture ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
370 km² ![]() |
Uwch y môr |
546 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
33.88°N 5.55°W ![]() |
Cod post |
50000 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Abdellah Bouanou ![]() |
![]() | |
Dinas yng ngogledd Moroco yw Meknès (Arabeg: مكناس), a leolir tua 130 km (81 milltir) i'r dwyrain o'r brifddinas Rabat a 60 km (37 milltir) i'r gorllewin o Fès. Mae'n brifddinas rhanbarth Meknès-Tafilalet. Poblogaeth: tua 950,322 (amcangyfrifiad 2006).
Y ddinas[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Meknes yn ddinas hanesyddol; hon oedd prifddinas Moroco yn nheyrnasiad Moulay Ismail (1672–1727), cyn iddi symud i Marrakech, ac felly mae'n un o bedair "dinas ymerodrol" y wlad, gyda Marrakech, Rabat a Fès. Enwir Meknès ar ôl llwyth Berber y Miknasa (ffurf Arabeg ar yr enw Berber Imknasn). Daeth yr ardal i feddiant y Rhufeiniaid a chodwyd dinas Rufeinig Volubilis (Oualili) i'r gogledd o'r ddinas bresennol.
Oherwydd ei bwysigrwydd pensaernïol a diwylliannol, mae medina (hen ddinas) Meknès yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.
Mae priffordd yr A2 a rheilffordd yn cysylltu Meknès gyda Rabat ar arfordir Cefnfor Iwerydd a gyda Fès i'r dwyrain. Mae lein reilffordd arall yn ei chysylltu gyda Tanger (Tangiers) i'r gogledd.
Cymunedau Meknès[golygu | golygu cod y dudalen]
Meknès Al Ismaïlia[golygu | golygu cod y dudalen]
- Aïn Jemâa
- Aïn Karma
- Aïn Orma
- Aït Ouallal
- Al Ismaïlia
- Al Machouar Stinia
- Dar Oum Soltane
- Maknassat Azzaytoun
- Oued Rommane
- Toulal
Meknès El Menzeh[golygu | golygu cod y dudalen]
- Boufakrane
- Charqaoua
- Dkhissa
- Hamrya
- Karmet Ben Salem
- M'haya
- Majjate
- Mergassiyine
- Moulay Idriss Zerhoun
- N'zalat Bni Amar
- Oualili (Volubilis)
- Oued Jdida
- Ouislane
- Sidi Abdellah el Khayat
- Sidi Slimane Moul Al Kifane
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Ffrangeg) Gwefan y ddinas Archifwyd 2014-12-23 yn y Peiriant Wayback.