Tanger
![]() | |
Math |
dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
947,952 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Bizerte, Faro, Algeciras, Cádiz, Liège, Casablanca, Metz, Moulins, Pasadena, Mumbai, Beaugency, Saint-Denis, Aartselaar, Saint-Josse-ten-Noode ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Tangier-Assilah Prefecture ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
199.5 km² ![]() |
Uwch y môr |
80 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
35.7847°N 5.8125°W ![]() |
Cod post |
90000, 90010, 90020, 90030, 90040, 90050, 90060, 90070, 90080, 90090, 90100 ![]() |
MA-TNG ![]() | |
![]() | |
Dinas yng ngogledd Moroco yw Tanger (Arabeg a Berber: Ṭanja طنجة, Ffrangeg: Tanger, Sbaeneg: Tánger, Portiwgaleg: Tânger, Saesneg: Tangier neu Tangiers). Mae ganddi boblogaeth o tua 700,000 (cyfrifiad 2008). Mae'n gorwedd ar arfordir Gogledd Affrica wrth y fynedfa orllewinol i Gulfor Gibraltar lle mae'r Cefnfor Iwerydd yn cwrdd â'r Môr Canoldir ger Penrhyn Spartel. Mae'n brifddinas rhanbarth Tanger-Tétouan.
Mae gan Tanger hanes cyfoethog sy'n ymestyn yn ôl i'r 5g CC pan gafodd ei sefydlu fel un o drefi'r Ffeniciaid o ddinas Carthago. Dros y canrifoedd bu'n gartref i sawl gwareiddiad ac yn noddfa i bobl o sawl gwlad. Yn 1923 rhoddwyd statws rhyngwladol i Tanger gan y pwerau trefedigaethol, ac felly daeth yn gyrchfa i bobl o sawl gwlad a diwylliant ac yn ganolfan masnach fawr. Yn y 1940au a'r 1950au roedd gan Tanger enw fel canolfan bywyd bohemaidd, moethus ond amheus; daeth sawl llenor ac artist yno ond roedd yn enwog hefyd am ddenu miliwnwyr, troseddwyr rhyngwladol a gamblwyr.
Mae'r ddinas yn newid yn gyflym heddiw. Mae prosiectau datblygu yn cynnwys gwestai moethus ar hyd y bae bay, canolbarth busnes, a maes awyr newydd. Yn ogystal, gobeithir y bydd economi Tanger yn adfywio diolch i adeiladu porthladd newydd Tanger-med.