Iwstinian I

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Justinian I)
Iwstinian I
GanwydPetrus Sabbatius Edit this on Wikidata
11 Mai 482, 11 Mai 483 Edit this on Wikidata
Tauresium Edit this on Wikidata
Bu farw14 Tachwedd 565 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethdeddfwr, gwleidydd, ymerawdwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl14 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadUnknown, Justin I Edit this on Wikidata
MamVigilantia Edit this on Wikidata
PriodTheodora Edit this on Wikidata
PlantTheodoros Tziros Edit this on Wikidata
Llinachllinach Iwstinian Edit this on Wikidata

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 527 a 565 oedd Iwstinian I, hefyd Iwstinian Fawr (Lladin: Flavius Petrus Sabbatius Justinianus, Groeg (iaith): Φλάβιος Πέτρος Σαββάτιος Ιουστινιανός 482/48313 neu 14 Tachwedd 565).

Mosäig o Iwstinian yn Masilica San Vitale, Ravenna.

Ganed Iwstinian yn Illyria; mae'n ymddangos mai Lladin oedd ei iaith gyntaf yn hytrach na Groeg. Aeth ei ewythr Justinus i Gaergystennin a phan daeth yn ddylanwadol yn y gard ymerodrol, galwodd Iwstinian yno ato a'i fabwysiadu. Daeth Justinus ym ymerawdwr, a chredir i Iwstinian fod â rhan bwysig yn rheoli'r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad ef. Ar farwolaeth Justinus, daeth Iwstinian yn ymerawdwr ar 9 Awst 527.

Cafodd Iwstinian ddylwanwad mawr ar yr ymerodraeth. Dechreuodd ymgyrch i adennill y tiriogaethau a gollwyd gan yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, y renovatio imperii neu "adfer yr ymerodraeth". Dan gadfridogion fel Belisarius a Narses, enillwyd tiriogaethau eang yn ôl yn y gorllewin, er na allodd yr ymerodraeth ddal ei gafael arnynt yn y pen draw.

Bu Iwstinian hefyd yn gyfrifol am ail-ysgrifennu Cyfraith Rhufain, y Corpus Juris Civilis sy'n parhau i fod yn sylfaen y gyfraith sifil mewn llawer o wledydd. Bu adfywiad diwylliannol yn ystod ei deyrnasiad hefyd, gan gynnwys adeiladu eglwys enwog Hagia Sophia yng Nghaergystennin.

Rhoddwyd diwedd ar gynlluniau mwyaf uchelgeisiol Iwstinian gan Bla Iwstinian, yn ôl pob tebyg y Pla Du, a darawodd yr ymerodraeth yn y 540au cynnar gan achosi nifer fawr o farwolaethau. Cafodd Iwstinian ei hun y pla, ond roedd ef yn un o'r ychydig a lwyddodd i wella ohono. Ceir hanes y cyfnod yng ngwaith yr hanesydd Procopius.