Belisarius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Belisarius, gan Jacques-Louis David (1781)

Flavius Belisarius, Groeg Βελισάριος , (505-565), oedd cadfridog enwocaf yr Ymerodraeth Fysantaidd. Dan yr ymerawdwr Justinianus I, bu'n gyfrifol am adfenniannu rhan helaeth o'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, tiriogaethau oedd wedi eu colli am dros ganrif.

Credir i Belisarius gael ei eni yn ninas Germane neu Germania, heddiw Sapareva Banya yn ne-orllewin Bwlgaria. Ymunodd a'r fyddin yn ieuanc, a daeth yn aelod o warchodlu'r ymerawdwr Justinus I. Wedi marwolaeth Justinus, penododd yr ymerawdwr newydd, Justinianus, ef yn gadfridog ar y fyddin yn y dwyrain, i wynebu ymosodiadau gan Ymerodraeth Persia. Gorchfygodd y Persiaid ym Mrwydr Dara yn 530 ac ym Mrwydr Callinicum ar Afon Ewffrates yn 531. Yn 532 ef oedd swyddog uchaf y fyddin yng Nghaergystennin pan fu terfysg Nikayn y ddinas; llwyddodd Belisarius i roi diwedd ar y gwrthryfel, gyda tua 30,000 o bobl yn cael eu lladd.

Tŵf tiriogaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd rhwng dechrau teyrnasiad Justinianus I (coch, 527) a'i farwolaeth (oren, 565). Belisarius oedd yn bennaf gyfrifol am hyn.

Penodwyd Belisarius yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y Fandaliaid yng Ngogledd Affrica rhwng 533 a 534. Ym Mrwydr Ad Decimum (13 Medi 533) gerllaw Carthago, gorchfygodd Gelimer, brenin y Fandaliaid. Enillodd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau 534.

Yn 535 gyrrwyd Belisarius ar ymgyrch i geisio adennill tiriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin. Glaniodd yn yr Eidal, oedd ym meddiant yr Ostrogothiaid a chipiodd ddinas Rhufain yn 536, yna symudodd tua'r gogledd i gipio Mediolanum (Milano heddiw) yna yn 540 Ravenna, prifddinas yr Ostrogothiaid. Dywedir i'r Ostrogothiaid gynnig derbyn Belisarius fel Ymerawdwr y Gorllewin; cymerodd yntau arno dderbyn y cynnig a defnyddio'r cyfle i gymeryd brenin yr Ostrogothiaid yn garcharor. Yn ddiweddarach galwyd ef o'r Eidal i wynebu ymgyrch Bersaidd yn Syria 541 -542).

Dychwelodd Belisarius i'r Eidal yn 544, lle roedd y sefyllfa wedi newid yn fawr, a'r Ostrogothiaid dan eu brenin newydd Totila wedi adfenniannu gogledd yr Eidal, yn cynnwys Rhufain. Llwyddodd Belisarius i ail-gipio Rhufain am gyfnod, ond roedd yr ymerawdwr yn amau ei deyrngarwch, a galwyd ef yn ôl o'r Eidal, gyda Narses yn cymeryd ei le.

Bu farw Belisarius yn 565. Yn y Canol Oesoedd, dywedid fod Justinianus wedi gorchymyn dallu Belisarius, ac iddo ddiweddu ei oes fel cardotyn dall. Nid yw'r rhan fwyaf o haneswyr modern yn credu fod yr hanes yma'n wir.