Illyria

Oddi ar Wicipedia
Llwythau Ilyria yn y 3 CC.

Yn y cyfnod clasurol, roedd Ilyria (Hen Roeg: Ἰλλυρία; Lladin: Illyria) yn diriogaeth yn rhan orllewinol y Balcanau. Preswylid yr ardal gan nifer o lwythau yn perthyn i grŵp ethnig yr Ilyriaid. Daeth yn dalaith Rufeinig Illyrium. Rhwng y 6ed a'r 8g goresgynnwyd yr ardal gan y Slafiaid. Mae'r hen Ilyria yn awr yn ffurfio gwledydd Montenegro, Slofenia, Croatia, Bosnia-Hertsegofina a Serbia.

Ym mytholeg Roeg, roedd Illyrius yn fab i Cadmus a Harmonia, ddaeth yn rheolwr Ilyria ac yn gyndad i bobloedd Ilyria.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: