Sfax (talaith)
Gwedd
| Math | Taleithiau Tiwnisia |
|---|---|
| Prifddinas | Sfax |
| Poblogaeth | 955,421 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | CET |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Tiwnisia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 7,545 km² |
| Uwch y môr | 121 metr |
| Cyfesurynnau | 34.73°N 10.77°E |
| Cod post | 30xx |
| TN-61 | |
![]() | |

Un o daleithiau (gouvernourat) Tiwnisia yw Sfax. Fe'i lleolir yng nghanolbarth y wlad, ar lan Môr y Canoldir. Dinas Sfax, ail ddinas Tiwnisia ac un o ganolfannau masnach mwyaf y wlad, yw ei phrifddinas.
Dominyddir daearyddiaeth y dalaith gan yr ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr, a enwir y Sahel. Mae'n enwog am ei holewydd.
Ar hyd yr arfordir ceir y prif drefi a dinasoedd, sy'n cynnwys Sfax ei hun, Mahrès a Skhira. Cyferbyn â dinas Sfax ceir Ynysoedd Kerkennah.
Mae'r GN1, prif draffordd y wlad, yn cysylltu Sfax a'r brifddinas Tiwnis i'r gogledd a threfi a dinasoedd y de. Ceir rheilffordd hefyd, sy'n cysylltu Sfax ac El Jem, Hammamet a Thiwnis.
Dinasoedd a threfi
[golygu | golygu cod]- Agareb
- Bir Ali Ben Khélifa
- Bir Salah
- Chihia
- El Aïn
- Graïba
- Gremda
- Jebiniana
- Kerkennah
- El Hencha
- Mahrès
- Menzel Chaker
- Sakiet Eddaïer
- Sakiet Ezzit
- Sfax (prifddinas)
- Skhira
- Thyna
| Taleithiau Tiwnisia | |
|---|---|
| Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan | |
