Ariana (talaith)
Gwedd
| Math | Taleithiau Tiwnisia |
|---|---|
| Prifddinas | Ariana |
| Poblogaeth | 576,088 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Tiwnisia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 482 km² |
| Cyfesurynnau | 36.8625°N 10.19556°E |
| TN-12 | |
![]() | |

Talaith yng ngogledd Tiwnisia yw talaith Ariana. Mae'n gorwedd i'r gogledd o ddinas Tiwnis ar lan Môr y Canoldir. Ei phrifddinas yw Ariana, ar gwr deheuol y dalaith, sy'n cael ei chyfrif gan amlaf yn rhan o ardal Tiwnis Fwyaf.
Rhed y rheilffordd sy'n cysylltu Tiwnis a Bizerte trwy'r dalaith. Oherwydd prinder dŵr, nid yw'r tir yn arbennig o ffrwythlon ond tyfir grawnfwydydd fel gwenith yn y meysydd mawr agored yng nghefn gwlad y dalaith, sy'n codi tua'r gorllewin a'r gogledd i rhagfryniau mynyddoedd y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir gogledd Tiwnisia i'r ffin ag Algeria, ger Tabarka.
Lleolir dinas Utique, safle dinas hynafol Utica, un o chwaer-ddinasoedd Carthago'r Ffeniciaid, yng nghwr gogledd-orllewinol Ariana.
Dinasoedd a threfi
[golygu | golygu cod]| Taleithiau Tiwnisia | |
|---|---|
| Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan | |
