Monastir (talaith)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad Talaith Monastir yn Nhiwnisia

Talaith yng nghanolbarth Tiwnisia yw talaith Monastir. Mae'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y canolbarth ar lan y Môr Canoldir ac mae'n ffinio ar daleithiau Sousse i'r gorllewin a Mahdia i'r de. Monastir yw prifddinas y dalaith a'i dinas fwyaf.

Mae'r dalaith yn ardal sy'n adnabyddus i ymwelwyr o Ewrop fel un o brif ganolfannau twristiaeth yn Nhiwnisia. Ceir traethau llydan braf a nifer o westai ar hyd yr arfordir rhwng dinasoedd Monastir a Sousse. Yn ymyl Monastir ceir maes awyr Monastir, un o'r prysuraf yn y wlad. Ceir ardalaoedd diwydiannol hefyd ac mae amaethyddaeth yn bwysig o hyd i ffwrdd o'r arfordir. Ar ôl ardal Tiwnis Fwyaf, mae'n un o ardaloedd mwyaf datblygiedig y wlad.

Ceir rheilffordd leol sy'n cysylltu Monastir a Sousse.

Dinasoedd a threfi[golygu | golygu cod y dudalen]


Taleithiau Tiwnisia Baner Tiwnisia
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan
Flag of Tunisia-2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.