Tiwnis (talaith)
| Delwedd:Vue Tunis.jpg, Siège du Gouvernorat de Tunis, 2019.jpg | |
| Math | Taleithiau Tiwnisia |
|---|---|
| Prifddinas | Tiwnis |
| Poblogaeth | 1,056,247 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | CET |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Tiwnisia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 346 km² |
| Uwch y môr | 11 metr |
| Yn ffinio gyda | Y Môr Canoldir |
| Cyfesurynnau | 36.8°N 10.17°E |
| Cod post | 10xx |
| TN-11 | |
![]() | |

Mae talaith Tiwnis (Arabeg: ولاية تونس , Ffrangeg: Gouvernorat de Tunis), a greuwyd ar 21 Mehefin 1956, yn un o 24 talaith Tiwnisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia ac mae ganddi arwynebedd o 346 km² (sef 0.2% o arwynebedd y wlad). Mae ganddi boblogaeth o tua 989,000 (amcangyfrifiad 2006). Ei chanolfan weinyddol yw Tiwnis, prifddinas Tiwnisia.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Talaith Tiwnis yw rhanbarth economaidd pwysicaf y wlad. Mae'n gorwedd ar lan Môr y Canoldir, o gwmpas Lac Tunis ar lan orllewinol Gwlff Tiwnis. Mae'r hinsawdd yn nodweddiadol o Fôr y Canoldir gyda tua 470 mm o law y flwyddyn a hafau poeth.
Yn weinyddol, ymrennir y dalaith yn 21 délégation (ardal), 8 municipalité ac 161 imada (ardal leol).
| Délégation | Poblogaeth yn 2004 (nifer) |
|---|---|
| Bab El Bhar | 39,806 |
| Bab Souika | 33,284 |
| Carthago | 20,715 |
| Cité El Khadhra | 36,818 |
| Djebel Djelloud | 26,490 |
| El Hrairia | 96,245 |
| El Kabaria | 81,261 |
| El Menzah | 43,320 |
| El Omrane | 40,801 |
| El Omrane Supérieur | 62,138 |
| El Ouardia | 33,734 |
| Ettahrir | 21,956 |
| Ezzouhour | 40,434 |
| La Goulette | 28,407 |
| La Marsa | 77,890 |
| La Médina | 26,703 |
| Le Bardo | 70,244 |
| Le Kram | 58,152 |
| Sidi El Béchir | 29,911 |
| Sidi Hassine | 79,381 |
| Séjoumi | 36,171 |
Dinasoedd a threfi
[golygu | golygu cod]- Carthago
- Gammarth
- La Goulette
- La Marsa
- Le Bardo (El Bardo)
- Le Kram (El Kram)
- Sidi Bou Saïd
- Sidi Hassine
- Tiwnis (prifddinas)
Economi
[golygu | golygu cod]
Lleolir maes awyr mwyaf y wlad (Maes awyr Tiwnis-Carthago) a phorthladd La Goulette, sy'n derbyn 98% o draffig forol y wlad, yn y dalaith. Diwydiant yw'r sector pwysicaf, er bod masnachu yn bwysig hefyd. Ceir pedair Ardal Ddiwydiannol sy'n cynnwys 273 hectar :
- La Goulette
- La Charguia
- Ibn Khaldoun
- Jbel Jelloud
Y prif ddiwydiannau yw brethyn a dillad, lledr a sgidiau a nwyddau electronig a thrydan.
Mae'r ystadegau economaidd fel a ganlyn :
- Masnach a gwasanaethau : 49.4%
- Diwydiannau, ynni, gwaith adeiladau cyhoeddus : 34.3%
- Amaeth a pysgota : 16.3%
- Diweithdra : 14.2%
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Tiwnis yw canolfan ddiwylliannol y wlad. Lleolir y rhan fwyaf o wasanaethau radio a theledu Tiwnisia yno.
Timau pêl-droed
[golygu | golygu cod]- Espérance sportive de Tunis
- Club Africain
- Stade Tunisien
- Avenir Sportif de la Marsa
- Étoile Olympique La Goulette Kram
| Taleithiau Tiwnisia | |
|---|---|
| Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan | |
