Sidi Bou Saïd

Oddi ar Wicipedia
Sidi Bou Saïd
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,873 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLe Touquet-Paris-Plage Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTiwnis Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.86976°N 10.34101°E Edit this on Wikidata
Cod post2026 Edit this on Wikidata
Map

Pentref deniadol ar Benrhyn Carthago, Tiwnisia, ar lan gogledd-orllewinol eithaf Gwlff Tiwnis yw Sidi Bou Saïd. Mae'n gorwedd ar fryn uchel y penrhyn ac wrth ei droed, tua 3 km i'r dwyrain o La Marsa a 17 km i'r gogledd-ddwyrain o'r brifddinas Tiwnis. Mae ganddi boblogaeth o 5,409 (2004).

Nodweddir yr hen bentref gan strydoedd cul syrth a thai gwyngalchog. Mae'r adeiladau wrth droed y bryn yn fwy diweddar ac yn cynnwys y mairie (neuadd y dref). Mae gan y pentref orsaf ar reilffordd y TGM sy'n ei gysylltu â La Marsa a Thiwnis. Mae'n lle poblogaidd iawn gan ymwelwyr yn yr haf. Gyda'r nos mae dinesyddion Tiwnis yn hoff o ddianc yno am ei dawelwch.

Mae pensaernïaeth Sidi Bou Saïd yn adnabyddus am ei ffenestri a'i griliau glas wedi'u gosod mewn muriau gwyngalchog disglair a'r drysau pren paentiedig hynafol. Yn anad unlle yn Nhiwnisia gwelir dylanwad pensaernïaeth Andalucía yma. Mae cwrtiau cysgodlyd a blodau lliwgar yn harddu'r strydoedd a cheir nifer o gaffis polbogaidd. O ben gorllewinol y penrhyn ceir golygfeydd gwych dros bron y cyfan o Gwlff Tiwnis, o Cap Bon yn y dwyrain i fynydd trawiadol Bou Kornine a Nhiwnis yn y de.

Cafwyd hyd i olion fila Rufeinig yn y pentref gyda llawr mosaig. Codwyd mosg a zaouia (cysgegrfan) i'r marabout (sant) lleol Sidi Bou Saïd yn y 13g ac enwir y pentref ar ei ôl. Ar ran uchaf y penrhyn ceir adfeilion yr hen ribat (caer), a godwyd ar ddechrau'r 9g fel rhan o gyfres o gaerau arfordirol, gan gynnwys yr enghreifftiau enwog yn Sousse a Mahdia.

Wrth droed y pentref i'r dwyrain ceir marina newydd a lôn sy'n ei chysylltu â rhan ogleddol Carthago, heibio i'r Plas Arlywyddol.

Oriel[golygu | golygu cod]