Jebiniana
Gwedd
| Math | bwrdeistref Tiwnisia, imada |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 35.0308°N 10.9039°E |
![]() | |
Tref yng nghanolbarth Tiwnisia yw Jebiniana neu Jebeniana (Arabeg: جبنيانة). Fe'i lleolir 35 kilometer i'r gogledd o ddinas Sfax. Yn rhan o dalaith Sfax yn weinyddol, mae'n fwrdeistref gyda phoblogaeth o 6576 (2004).
Mae'n gorwedd mewn ardal amaethyddol llai na 10 km o lan Môr y Canoldir, ar y ffordd MG82 sy'n ei chysylltu gyda Chebba a Mahdia i'r gogledd a gyda Sfax i'r de.
