Skhira
Gwedd
| Math | bwrdeistref Tiwnisia, imada |
|---|---|
| Poblogaeth | 34,511 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | delegation of Skhira |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 34.3006°N 10.0708°E |
| Cod post | 3050 |
![]() | |
Tref arfordirol yng nghanolbarth Tiwnisia yw Skhira (Arabeg: الصخيرة ). Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o dref Mahrès, tua 300 km i'r de o'r brifddinas, Tiwnis, yn nhalaith Sfax. Gorwedd ar Gwlff Gabès.
Tref ddiwydiannol ydyw. Mae pibau olew yn cyrraedd yno o feysydd olew de Tiwnisia ac Algeria. Mae rheilffordd yn cysylltu Shkira â Sfax a Thiwnis, i'r gogledd, a gyda Gabès i'r de.
