Gabès

Oddi ar Wicipedia
Gabès
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth116,323 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLinz, Sant-Brieg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGabès Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.8814°N 10.0983°E Edit this on Wikidata
Cod post6000 Edit this on Wikidata
Map
Rhodfa môr Gabès

Dinas yn ne Tiwnisia sy'n ganolfan weinyddol talaith Gabès yw Gabès (Arabeg: قابس). Mae'n gorwedd ar wastadedd yr Arad ger arfordir y Môr Canoldir ar Draffordd Genedlaethol 1, rhwng Sfax i'r gogledd a Djerba i'r de. Mae'n dref ddiwydiannol gyda phoblogaeth o tua 116,000. Ceir gwerddon fawr ar gyrion y ddinas.

Roedd tref fechan dan reolaeth Carthago ar safle'r ddinas; sefydlwyd y Rhufeiniaid ddinas Tacapae ar y safle. Erbyn yr Oesoedd Canol roedd Gabès wedi datblygu yn derminws ogleddol un o'r llwybrau masnach ar draws y Sahara yn dod ag aur o Orllewin Affrica a chaethweision o Swdan. Daeth y fasnach i ben yng ngyfnod rheolaeth Ffrainc yn Nhiwnisia a dirywiodd y dref, ond tyfodd eto yn yr 20g i ddod yn ganolfan diwydiant, yn enwedig wedi i olew gael ei ddarganfod yn y môr gerllaw; ceir safle petrogemegol fawr ar gyrion y ddinas.

Dydi Gabès ddim yn denu twristiaid o gwbl, er bod yr hen chwarter, y Jara, yn cynnwys sawl adeilad hanesyddol, ond mae tref fechan Matmata a'i chartrefi ogofaol, yn yr anialwch i'r de, yn atyniad mawr: saethwyd rhannau o'r ffilm Star Wars yno.