Mario Lanza

Oddi ar Wicipedia
Mario Lanza
FfugenwMario Lanza Edit this on Wikidata
GanwydAlfred Arnold Cocozza Edit this on Wikidata
31 Ionawr 1921 Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
Bu farw7 Hydref 1959 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Label recordioRCA Victor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • South Philadelphia High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, cerddor, actor ffilm, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadEnrico Caruso Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lanzalegend.com Edit this on Wikidata

Roedd Mario Lanza ganwyd Alfredo Arnold Cocozza; (31 Ionawr 1921 - 7 Hydref 1959) yn denor Americanaidd o dras Eidalaidd, ac yn actor a seren ffilm Hollywood yn niwedd y 1940au a'r 1950au.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lanza yn Philadelphia, yn blentyn i Antonio Cocozza, perchennog siop groser a Maria (née Lanza) ei wraig. Roedd ei ddau riant yn fewnfudwyr i'r Unol Daleithiau o'r Eidal. Wedi derbyn rhywfaint o addysg gerddorol tra yn yr ysgol roedd wedi penderfynu ar yrfa fel cannwr opera.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ym 1942 derbyniodd Lanza ysgoloriaeth gan y maestro Serge Koussevitzky i hyfforddi yng Ngŵyl Tanglewood. Ar 7 Awst, canodd rôl Fenton yng nghynhyrchiad yr Ŵyl o The Merry Wives of Windsor gan Nicolai - ei berfformiad cyntaf ar y llwyfan operatig.

Torrwyd ei hyfforddiant a'i yrfa operatig yn fyr pan ymunodd yr Unol Daleithiau a'r Ail Ryfel Byd. Cafodd Lanza ei listio i'r Fyddin. Cafodd ei benodi yn rhan o'r Heddlu Milwrol i gychwyn ond cafodd ei drosglwyddo i'r Gwasanaethau Arbennig fel canwr pan ddarganfuwyd bod ganddo gefndir mewn cerddoriaeth. Ac felly fe deithiodd fel diddanwr gyda'r fyddin, gan ganu mewn sioe o'r enw On the Beam.

Ar ôl y rhyfel bu Lanza yn teithio trwy'r Unol Daleithiau a Chanada wrth gael gwersi canu gan Enrico Rosati. Arweiniodd y daith at gyngerdd yn yr Hollywood Bowl Los Angeles ym 1947.[2] Gwelodd Louis B. Mayer, pennaeth Metro-Goldwyn-Mayer, ei berfformiad a gwnaeth ei ganu argraff arno. Rhoddodd Mayer gontract ffilm saith mlynedd i Lanza. Cyn hynny, dim ond dau berfformiad o opera yr oedd wedi canu. Y flwyddyn ganlynol (1948), fodd bynnag, canodd rôl Pinkerton ym Madama Butterfly gan Puccini yn New Orleans.[3]

Ei ffilm gyntaf ar gyfer MGM oedd That Midnight Kiss (1949) gyda Kathryn Grayson ac Ethel Barrymore. Blwyddyn yn ddiweddarach daeth ei gân "Be My Love", o'r ffilm The Toast of New Orleans, yn boblogaidd iawn a gwerthodd dros filiwn o gopïau o'r recordiad o'r gân. Ym 1951, chwaraeodd rôl y tenor Enrico Caruso, ei eilun, yn y ffilm fywgraffyddol The Great Caruso, a gynhyrchodd arall a werthodd dros filiwn o gopïau "The Loveliest Night of the Year" (cân a ddefnyddiodd alaw Sobre las Olas ). The Great Caruso oedd y ffilm a wnaeth y fwyaf o bres y flwyddyn honno.[4]

Cân deitl ei ffilm nesaf, Because You're Mine, oedd ei gân boblogaidd olaf a werthodd filiwn. Aeth y gân ymlaen i dderbyn enwebiad Gwobr Academi am y Gân Wreiddiol Orau. Ar ôl recordio'r trac sain ar gyfer ei ffilm nesaf, The Student Prince, cychwynnodd ar frwydr hirfaith gyda phennaeth y stiwdio Dore Schary yn deillio o wahaniaethau artistig gyda'r cyfarwyddwr Curtis Bernhardt, ac fe'i diswyddwyd gan MGM.[5]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1945 priododd ag Elizabeth Jeannette Lyhan. Bu iddynt bedwar o blant.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Yn ystod y rhan fwyaf o'i yrfa ffilm, roedd yn dioddef o ddibyniaeth ar orfwyta ac alcohol a gafodd effaith ddifrifol ar ei iechyd a'i berthynas â chyfarwyddwyr, cynhyrchwyr ac, weithiau, aelodau eraill o'r cast.[6] Gwnaeth dair ffilm arall cyn marw o emboledd ysgyfeiniol yn 38 oed. Ar adeg ei farwolaeth ym 1959 roedd yn dal i fod "y tenor enwocaf yn y byd".[7][8]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl Stiwdio Nodiadau Ref
1944 Winged Victory aelod o'r corws Twentieth Century-Fox [9]
1949 That Midnight Kiss Johnny Donnetti Metro-Goldwyn-Mayer [10]
1950 The Toast of New Orleans Pepe Abellard Duvalle Metro-Goldwyn-Mayer [11]
1951 The Great Caruso Enrico Caruso Metro-Goldwyn-Mayer [12]
1952 Because You're Mine Renaldo Rossano Metro-Goldwyn-Mayer [13]
1954 The Student Prince Prince Karl (singing voice) Metro-Goldwyn-Mayer [14]
1956 Serenade Damon Vincenti Warner Bros. [15]
1957 Seven Hills of Rome Marc Revere Metro-Goldwyn-Mayer hefyd yn cael ei alw'n Arrivederci Roma [16]
1959 For the First Time Tonio Costa Metro-Goldwyn-Mayer ffilm olaf [17]

Detholiad o gryno ddisgiau[golygu | golygu cod]

  • The Great Caruso And Other Caruso Favorites (1989)
  • Mario Lanza Sings Songs from The Student Prince and The Desert Song (1989)
  • Mario! (Lanza At His Best) (1995)
  • Mario Lanza: Opera Arias and Duets, (1999)
  • Mario Lanza Live at Hollywood Bowl: Historical Recordings (1947 & 1951) (2000)
  • Serenade/A Cavalcade of Show Tunes (2004)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "A Lanza Scrapbook". Mario Lanza, Tenor. Cyrchwyd 2021-02-22.
  2. 2.0 2.1 "FanFaire celebrates MARIO LANZA!". www.fanfaire.com. Cyrchwyd 2021-02-22.
  3. Bessette, Roland L. Mario Lanza: Tenor in Exile, Amadeus (1999), p. 65
  4. Vogel, Michelle. Children of Hollywood, McFarland (2005), p. 65.
  5. "Mario Lanza". IMDb.com.
  6. Hopper, Hedda. The Whole Truth and Nothing But, Pyramid Books (1963), chapter 18.
  7. Mannering, Derek. Mario Lanza: Singing to the Gods, Univ. Press of Mississippi (2005) pp. xv-xvii.
  8. Kimmel, Eleonora. Altered and Unfinished Lives, A.F.A. (2006) p. 191.
  9. Leonard Maltin, gol. (2015). Leonard Maltin's Classic Movie Guide (arg. Third). Penquin Random House LLC. t. 785.
  10. "That Midnight Kiss". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
  11. "The Toast of New Orleans". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
  12. "The Great Caruso". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
  13. "Because You're Mine". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
  14. "The Student Prince". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
  15. "Serenade". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
  16. "Seven Hills of Rom". American Film Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-25. Cyrchwyd December 6, 2020.
  17. "For the First Time". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.