Neuadd Annibyniaeth Philadelphia

Oddi ar Wicipedia
Neuadd Annibyniaeth Philadelphia
Mathlegislative building, safle treftadaeth, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1753 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolIndependence National Historical Park Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolIndependence National Historical Park Edit this on Wikidata
SirPhiladelphia Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd2 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.9489°N 75.15°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Sioraidd Edit this on Wikidata
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Neuadd Annibyniaeth Philadelphia yn dirnod cenedlaethol yr Unol Daleithiau, sydd wedi'i lleoli yn Philadelphia, Pennsylvania ar Stryd Chesnut rhwng y 5ed a'r 6ed stryd. Mae'r adeilad yn enwog yn bennaf am mai yn y fan yma y trafodwyd a chytunwyd ar Ddatganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Cwblhawyd yr adeilad ym 1753 fel Tŷ Taleithiol Pennsylvania ar gyfer Talaith Pennsylvania. Daeth yr adeilad yn ganolfan cyfarfod i'r Ail Gyngres Cyfandirol rhwng 1775 a 1783. Arwyddwyd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a Chyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn Neuadd Annibyniaeth Philadelphia. Bellach mae'r adeilad yn rhan o'r Parc Hanes Annibyniaeth Cenedlaethol ac mae wedi ei rhestru fel Safle Treftadaeth y Byd.

Mae Neuadd Annibyniaeth Philadelphia, a adeiladwyd rhwng 1732 ac 1753, yn adeilad brics coch. Cafodd ei gynllunio mewn arddull Sioraidd gan Edmund Woolley ac Andrew Hamilton, a chafodd ei adeiladu gan Woolley. Ar y man uchaf, mae'r adeilad 135 troedfedd (41 metr) uwchlaw'r ddaear. Comisiynwyd yr adeilad gan ddeddfwriaeth trefedigaethol Pennsylvania ac yn wreiddiol, defnyddiodd llywodraeth drefedigaethol Pennsylvania yr adeilad fel eu Tŷ Taleithiol. Ceir dau adeilad llai o faint sy'n rhan o'r Neuadd Annibyniaeth: Neuadd yr Hen Ddinas i'r dwyrain a Neuadd y Gyngres i'r gorllewin. Gyda'i gilydd, mae'r tri adeilad ar floc o'r ddinas a elwir Sgwâr Annibyniaeth, ynghyd â'r Neuadd Athronyddol, cartref cyntaf Cymdeithas Athronyddol yr Unol Daleithiau.

Cloch Rhyddid Philadelphia[golygu | golygu cod]

Prif erthygl: Cloch Rhyddid Philadelphia.

Clochdwr Neuadd Annibyniaeth Philadelphia oedd cartref cyntaf y "Gloch Rhyddid" ac erbyn heddiw mae yno "Gloch Canmlwyddiant" a grëwyd ar gyfer Arddangosfa Canmlwyddiant yr Unol Daleithiau ym 1876. Arddangosir y gloch wreiddiol, gyda'i chrac unigryw yn y Ganolfan Liberty Bell sydd yr ochr arall yr heol. Ym 1976, ymwelodd Brenhines y Deyrnas Unedig, Elizabeth II â Philadelphia a chyflwynodd anrheg o gopi o'r Gloch Dau Ganmlwyddiant i bobl yr Unol Daleithiau. Lleolir y gloch hon yn y clochdwr modern ar y 3ydd Stryd ger y Neuadd Annibyniaeth.

Y clochdwr ar frig Neuadd Annibyniaeth lle'r arferai'r Gloch Rhyddid gael ei lleoli
Golwg allanol Neuadd Annibyniaeth, Philadelphia, (tua'r 1770au)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]