Cloch Rhyddid Philadelphia
| Enghraifft o: | cloch, atyniad twristaidd |
|---|---|
| Deunydd | copr, tun |
| Dechrau/Sefydlu | 1753 |
![]() | |
| Gwneuthurwr | Whitechapel Bell Foundry |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Rhanbarth | Philadelphia |
| Gwefan | https://www.nps.gov/inde/learn/historyculture/stories-libertybell.htm |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/012h3h |
| Quora | Liberty-bell |
Mae'r Gloch Rhyddid yn Philadelphia, Pennsylvania yn un o symbolau amlycaf Rhyfel Annibyniaeth America. Mae'n symbol cyfarwydd yn yr Unol Daleithiau ac mae'r gloch wedi cael ei disgrifio fel eicon o ryddid a chyfiawnder.
Yn draddodiadol, digwyddodd caniad enwocaf y gloch ar yr 8fed o Orffennaf, 1776 er mwyn galw trigolion Philadelphia ymghyd i ddarllen y Datganiad o Annibyniaeth. Mae haneswyr y dyddiau hyn yn amau'r honiad hwn am fod y clochdy lle crogai'r gloch wedi dirywio'n sylweddol yn ystod y cyfnod hwnnw. Canwyd y gloch hefyd ym 1774 er mwyn cyhoeddi agoriad y Gynghrair Tramor Cyntaf ac ar ôl brwydrau Lexington a Concord ym 1775.
Galwyd y Gloch Rhyddid yn "Y Gloch Annibyniaeth" neu "Gloch yr Hen Ianci" tan 1837, pan gafodd ei fabwysiadu gan y Gymdeithas Americanaidd yn Erbyn Caethwasiaeth fel symbol ar gyfer mudiad y diddymwyr.
