Mosul
| Math | dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,792,000 |
| Pennaeth llywodraeth | list of Emirs of Mosul |
| Cylchfa amser | UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Philadelphia |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Nineveh Governorate |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 180 km² |
| Uwch y môr | 223 metr |
| Gerllaw | Afon Tigris |
| Cyfesurynnau | 36.37°N 43.12°E |
| Pennaeth y Llywodraeth | list of Emirs of Mosul |
![]() | |
Mae Mosul (Arabeg: الموصل al-Mawṣil, Cyrdeg: Mûsil, Syrieg: ܢܝܢܘܐ Nîněwâ, Tyrceg: Musul) yn ddinas yng ngogledd Irac yn agos i'r ffin â Twrci a phrifddinas talaith Ninawa. Saif ar lannau Afon Tigris, sydd â phump o bontydd arni, tua 396 km (250 milltir) i'r gogledd-orllewin o Baghdad. Daw enw'r deunydd lliain mwslin o enw'r ddinas, a oedd yn ganolfan bwysig i'r diwydiant mwslin am ganrifoedd. Cynnyrch arall o bwys hanesyddol yw marmor Mosul.
Yn 1987, roedd ganddi boblogaeth o 664,221; yr amcangyfrif yn 2002 oedd 1,739,800. Mosul yw trydedd ddinas fwyaf Irac, ar ôl Baghdad a Basra.
O 1534 hyd 1918 bu'n ganolfan masnach bwysig yn yr Ymerodraeth Ottoman.
Mae'n un o brif ganolfannau'r diwydiant olew yn Irac.
Tua 30 km i'r de-ddwyrain o'r ddinas ceir adfeilion dinas hynafol Nimrud, prifddinas Assyria, un o'r safleoedd archaeolegol pwysicaf yn y Dwyrain Canol.

