Isaac Asimov
Isaac Asimov | |
---|---|
Ffugenw | Paul French |
Ganwyd | Исаáк Ази́мов 2 Ionawr 1920 Petrovichi |
Bu farw | 6 Ebrill 1992 Manhattan |
Man preswyl | Brooklyn, Petrovichi, Boston, West Philadelphia, Manhattan |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, Unol Daleithiau America, Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | biocemegydd, nofelydd, rhyddieithwr, hunangofiannydd, awdur ffuglen wyddonol, awdur gwyddonol, awdur ffeithiol, academydd, newyddiadurwr, sgriptiwr, ysgrifennwr, awdur testun am drosedd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Foundation series, Robot series, Nightfall, The Intelligent Man's Guide to Science, I, Robot, The Bicentennial Man, The Gods Themselves |
Arddull | gwyddonias |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Janet Asimov, Gertrude Asimov |
Plant | Robyn Asimov |
Gwobr/au | Gwobr Hugo, James T. Grady-James H. Stack Award for Interpreting Chemistry, Hugo Award for Best All-Time Series, dyneiddiwr, Edward E. Smith Memorial Award, Gwobr Nebula am y Nofel Orau, Gwobr Locus am y Nofel Orau, Gwobr hugo am y Nofel Orau, Gwobr Klumpke-Roberts, Gwobr Nebula am Nofelig Orau, Gwobr Locus am y Nofelig Orau, Gwobr Hugo am y Nofelig Orau, Gwobr Locus i'r Nofel Ffug-Wyddonol Orau, Gwobr hugo am y Nofel Orau, Gwobr Damon Knight, Uwch Feistr, Gwobr Locus am y Stori Fer Orau, Gwobr Hugo am y Nofelig Orau, Gwobr Hugo am y Gwaith Perthnasol Gorau, Retro Hugo Award, Prix Cosmos 2000, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Cymrawd y Pwyllgor Ymchwiliad Sgeptig, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Retro Hugo Award for Best Novelette, Retro Hugo Award for Best Short Story, Gwobr Ditmar, Great Immigrants Award |
Gwefan | http://www.asimovonline.com/ |
llofnod | |
Llenor toreithiog o'r Unol Daleithiau oedd Isaac Asimov (2 Ionawr 1920 – 6 Ebrill 1992) sydd yn nodedig am ei ffuglen wyddonol.[1]
Ganed ym mhentref Petrovichi, Rwsia, i deulu Iddewig, a symudodd i Unol Daleithiau America pan oedd yn 3 oed. Cafodd ei fagu yn Brooklyn, Efrog Newydd, a graddiodd o Brifysgol Columbia ym 1939. Gwasanaethodd yng Ngorsaf Arbrofion Awyrennol Llynges yr Unol Daleithiau yn Philadelphia yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi iddo ennill ei ddoethuriaeth mewn cemeg o Brifysgol Columbia ym 1948, ymunodd â chyfadran Prifysgol Boston i addysgu biocemeg.
Dechreuodd ysgrifennu yn ystod ei arddegau, a chyhoeddwyd ei straeon cynnar mewn cylchgronau gwyddonias megis Amazing Stories ac Astounding Science-Fiction. Cesglir ei straeon am robotiaid yn y gyfrol I, Robot (1950), sydd yn cynnwys ei "dair deddf roboteg" enwog. Ei gampwaith yw'r gyfres "Foundation" (cyhoeddwyd fel triawd ym 1951–3), sydd yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Alaethol, ac ymdrech y cymeriad Hari Seldon i achub y gwareiddiad hwnnw drwy gynllun daroganol "seicohanes".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Rothstein, Mervyn (7 Ebrill 1992). Isaac Asimov, Whose Thoughts and Books Traveled the Universe, Is Dead at 72. The New York Times. Adalwyd ar 28 Ebrill 2013.
- Americanwyr Iddewig
- Americanwyr Rwsiaidd
- Biocemegwyr o'r Unol Daleithiau
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Columbia
- Genedigaethau 1920
- Gwyddonwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llenorion gwyddonias o'r Unol Daleithiau
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llenorion straeon byrion Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Marwolaethau 1992
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Pobl o Brooklyn
- Pobl o Oblast Smolensk
- Pobl fu farw o AIDS
- Pobl fu farw o fethiant yr aren
- Pobl fu farw o fethiant y galon