Hessen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hessen
Wiesbaden Landtag Hessen im Stadtschloß Wiesbaden am Schloßplatz - Foto Wolfgang Pehlemann Wiesbaden DSCN1417.jpg
Coat of arms of Hesse.svg
Math taleithiau ffederal yr Almaen Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Chatti Edit this on Wikidata
Prifddinas Wiesbaden Edit this on Wikidata
Poblogaeth 6,265,809 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 19 Medi 1945 (Allied Control Council, proclamation) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Volker Bouffier Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Emilia-Romagna, Wisconsin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Yr Almaen Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd 21,100 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 264 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Niedersachsen, Thüringen, Bafaria, Baden-Württemberg, Rheinland-Pfalz, Nordrhein-Westfalen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 50.6661°N 8.5911°E Edit this on Wikidata
DE-HE Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Landtag of Hesse Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Minister-President of Hesse Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Volker Bouffier Edit this on Wikidata

Talaith yng ngorllewin canolbarth yr Almaen yw Hessen; ei phrifddinas yw Wiesbaden.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd presenoldeb Celtaidd cynnar yn yr ardal a elwir heddiw'n Hessen. Mae tystiolaeth o hyn ar ffurff claddiadau o arddull La Tène sy'n dyddio o ganol y 5 CC a ddarganfuwyd yn Glauberg. Anheddwyd y rhanbarth yn ddiweddarach gan lwyth Germanaidd yn Chatti tua'r ganrif 1af CC, ac mae'r enw Hessen yn barhad o enw'r llwyth. Yn y Canol Oesoedd cynnar, roedd gau Ffrancaidd yn cynnwys ardal o amgylch Fritzlar a Cassel ac un Sacsonaidd arall i'r gogledd a adnabuwyd fel Hessengau. Yn ystod y 9g daeth Hessengau Sacsonaidd hefyd o dan reolaeth y Franconiaid, cyn cael ei drosglwyddo i Thüringen yn y 12g.

Enillodd Hessen ei hannibyniaeth yn Rhyfel Olyniaeth Thuringiaid (12471264), a daeth yn Landgrafiaeth o fewn Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cododd yn fuan i bwysigrwydd sylfaenol o dan Landgraf Philip y Fawrfrydig, a oedd yn un o'r arweinwyr Almaeneg Protestannaidd. Ar ôl marwolaeth Philip ym 1567, rhannwyd y diriogaeth ymhlith ei bedwar mab o'i briodas gyntaf (roedd Philip yn figamydd) mewn llinellau: Hessen-Cassel, Hessen-Darmstadt, Hessen-Rheinfels a Hessen-Marbwrg. Bu farw'r ddwy linell ganlynol allan yn weddol fuan (1583 ac 1605), Hessen-Cassel a Hessen-Darmstadt oedd y ddwy diriogaeth graidd yn y tiroedd Hessiaidd. Rhannwyd llinellau cyfochrog sawl gwaith dros y canrifoedd, fel ym 1622, pan rannwyd Hessen-Hombwrg i ffwrdd o Hessen-Darmstadt. Mabwysiadodd Cassel Galfiniaeth yn yr 16g, tra arhosodd Darmstadt gyda Lutheriaeth ac o ganlyniad, bu gwrthdaro rhwng y ddwy linell, yn arbennig yn yr anghydfod dros Hessen-Marbwrg ac yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, pan ymladdodd Darmstadt ar ochr yr Ymerawdwr, tra ochrodd Cassel gyda Sweden a Ffrainc.

Cyflogwyd nifer o hurfilwyr o Hesse gan Brydain yn ystod y Chwyldro Americanaidd, i ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr yn America.

Cododd Hessen-Cassel i statws Etholaeth ym 1803, ond ni chafodd hyn unrhyw effaith gan y diddymwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1806. Mae'r diriogaeth yn atodiad gan y Deyrnas Westphalia yn 1806, ond hadfer i'r etholwr ym 1813. Er Etholwyr eraill wedi ennill o deitlau eraill, gan ddod yn naill ai brenhinoedd neu Grand-Dukes, cadw etholwr o Hessen-Cassel yn unig y mae anachronistig urddas. Mae'r enw goroesi yn y tymor Kurhessen, sy'n dynodi ardal o amgylch Kassel. Yn 1866 roedd yn atodiad gan Brwsia, ynghyd â Dinas am ddim o Frankfurt, Hessen-Hombwrg a Dugiaeth o Nassau, a sefydlodd y dalaith Hessen-Nassau.

Codwyd Hessen-Darmstadt i statws Prif Ddugiaeth ym 1806. Ymladdodd y diriogaeth ar ochr Prwsia yn erbyn Awstria yn Rhyfel 1866, o gadwodd ei annibyniaeth er iddynt gael eu gorchfygu, gan fod rhan fwyaf o'r wlad wedi ei leoli i'r de o Afon Fain, a ni feiddiodd Prwsia geisio ehangu y tu hwnt i'r ffin yr afon hon, rhag ofn cythruddo Ffrainc. Ond, cafodd y rhannau o Hessen-Darmstadt i'r gogledd o'r afon (yr ardal o amgylch tref Gießen, a elwir yn aml yn Oberhessen) eu cynnwys yn y Norddeutscher Bund, sef ffederasiwn o wladwriaethau'r Almaen, a sefydlwyd gan Brwsia ym 1867. Ymunodd gweddill y Brif Ddugiaeth ag Ymerodraeth yr Almaen ym 1871. Roedd Darmstadt yn un o ganolfannau'r Jugendstil o gwmpas troad y ganrif.

Hyd 1907, llewod Hessian coch a gwyn yn unig a ddefnyddiodd Hesse ar ei arfbais.

Trawsnewidiwyd Hessen-Darmstadt o frenhiniaeth i weriniaeth yn ystod chwyldro 1918, ac ailenwyd yn swyddogol yn Volksstaat Hessen (Talaith Pobl Hesse). Meddiannwyd rhannau o Hesse-Darmstadt ar lan orllewinol y Rhein (talaith Rheinhessen) gan filwyr Ffrengig hyd 1930, o dan delerau cytundeb heddwch Versailles y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben yn swyddogol ym 1919.

Meddiannwyd yr ardal i'r gorllewin o'r Rhein unwaith eto gan Ffrainc ar ôl yr Ail Ryfel Byd, tra bu gweddill y wlad yn rhan o ardal a feddiannwyd gan yr Unol Daleithiau. Gwahanodd y Ffrancod eu rhan hwy o Hessen oddi wrth weddill y wlad, a'i ymgorffori'n rhan o dalaith newydd Rheinland-Pfalz. Dros yr afon, crëwyd talaith Groß-Hessen o weddill y rhanbarth gan yr Unol Daleithiau, ar 19 Medi 1945, a chynhwyswyd y rhan fwyaf o'r hen dalaith Brwsiaidd Hessen-Nassau. Ar 4 Rhagfyr 1946 ail-enwyd Groß-Hessen yn swyddogol yn Hessen.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Hessen yn ffinio â thaleithiau Nordrhein-Westfalen, Niedersachsen, Thüringen, Bafaria, Baden-Württemberg a Rheinland-Pfalz. Ymysg ei dinasoedd mwyaf mae Frankfurt am Main, Wiesbaden, Darmstadt, Offenbach, Gießen, Wetzlar, Fulda, Kassel a Marburg.

Y prif afonydd yn y gogledd yw Afon Fulda ac Afon Lahn. Mae ganddi dirwedd fryniog; y prif fynyddoedd yw'r Rhön, y Westerwald, y Taunus, y Vogelsberg a'r Spessart.

Trigai'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn rhan ddeheuol y dalaith, rhwng Afon Main ac Afon Rhein (sy'n ffurfio'r ffin i'r de-orllewin). Safai'r mynyddoedd Odenwald rhwng afonydd Main a Rhein.

Dinasoedd a Rhanbarthau[golygu | golygu cod y dudalen]

Map of Hesse with districts (with numbers).svg

Mae 21 rhanbarthau yn Hessen.

  1. Bergstraße (Heppenheim) (HP)
  2. Darmstadt-Dieburg (Darmstadt, Ortsteil Kranichstein) (DA)
  3. Groß-Gerau (Groß-Gerau) (GG)
  4. Hochtaunuskreis (Bad Homburg) (HG)
  5. Main-Kinzig-Kreis (Gelnhausen) (MKK)
  6. Main-Taunus-Kreis (Hofheim am Taunus) (MTK)
  7. Odenwaldkreis (Erbach) (ERB)
  8. Offenbach (Dietzenbach) (OF)
  9. Rheingau-Taunus-Kreis (Bad Schwalbach) (RÜD)
  10. Wetteraukreis (Friedberg) (FB)
  11. Gießen (Gießen) (GI)
  12. Lahn-Dill-Kreis (Wetzlar) (LDK)
  13. Limburg-Weilburg (Limburg) (LM)
  14. Marburg-Biedenkopf (Marburg) (MR)
  15. Vogelsbergkreis (Lauterbach) (VB)
  16. Fulda (Fulda) (FD)
  17. Hersfeld-Rotenburg (Bad Hersfeld) (HEF)
  18. Kassel (Kassel) (KS)
  19. Schwalm-Eder-Kreis (Homberg (Efze)) (HR)
  20. Werra-Meißner-Kreis (Eschwege) (ESW)
  21. Waldeck-Frankenberg (Korbach) (KB)

Dinasoedd heb rhanbarth:

  1. Darmstadt (DA)
  2. Frankfurt am Main (F)
  3. Kassel (KS)
  4. Offenbach am Main (OF)
  5. Wiesbaden (WI)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Taleithiau ffederal yr Almaen Baner yr Almaen
Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sachsen | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen