Hurfilwr
Gwedd
| Enghraifft o: | galwedigaeth |
|---|---|
| Math | gwron |
| Rhan o | sefydliad hurfilwyr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0jq47 |
| Thesawrws y BNCF | 34944 |
| Quora | Mercenaries |
Milwr proffesiynol sy'n gwasanaethu mewn llu arfog gwlad estron am gyflog yw hurfilwr.[1] Ers y rhyfeloedd cynharaf defnyddiodd lywodraethau hurfilwyr i ychwanegu at eu lluoedd. Roedd y rhain yn aml yn fyddinoedd preifat ac yn barhaol i raddau. Gostyngodd y galw am filwyr tâl yn sgil datblygiad y fyddin sefydlog yng nghanol yr 17g. Yn yr oes fodern, cyn-filwyr unigol sy'n dewis brwydro am arian ac antur yw'r mwyafrif o hurfilwyr.
Gwrthodir y label gan nifer o gwmnïau milwrol preifat, ac fel arfer ni ddefnyddir i ddisgrifio unedau sy'n recriwtio tramorwyr yn swyddogol, megis Lleng Dramor Ffrainc, Lleng Dramor Sbaen a Brigâd y Gyrcas.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ hurfilwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Mehefin 2016.
- ↑ Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 156.