Niedersachsen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Niedersachsen yn yr Almaen

Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Niedersachsen. Fe'u lleolir yng ngogledd-orllewin yr Almaen ar Fôr y Gogledd, gyda ffiniau (yn glocwedd o'r gogledd) â thaleithiau Schleswig-Holstein, Hamburg, Mecklenburg-Vorpommern, Brandenburg, Sachsen-Anhalt, Thüringen, Hessen, a Nordrhein-Westfalen, ac a'r Iseldiroedd yn y gorllewin. Mae'n ail fwyaf o ran arwynebedd tir ymysg taleithiau'r Almaen. Ei phrifddinas yw Hannover. Er eu bod yn ymestyn yn ddwfn i fewn i Niedersachsen, nid yw ardaloedd trefol Bremen (gan gynnwys Bremerhaven) a Hamburg yn llunio rhan o'r dalaith.

Daearyddiaeth[golygu]

Ymysg ei dinasoedd mwyaf mae Hannover, Braunschweig, Osnabrück, Oldenburg a Göttingen. Mae'r afonydd Ems, Weser, Aller ac Elbe yn llifo o'r de i'r gogledd drwy Niedersachsen.


Taleithiau ffederal yr Almaen Baner yr Almaen
Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sachsen | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen
Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.