Sachsen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Sacsoni)
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad Sachsen

Un o daleithiau ffederal yr Almaen yw Sachsen, yn llawn Freistaat Sachsen (Sorbeg: Swobodny stat Sakska). Saif yn nwyrain y wlad, yn ffinio ar Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 4.220.200. Prifddinas y dalaith yw Dresden; dinasoedd pwysig eraill yw Leipzig, Chemnitz a Zwickau.

Sefydlwyd Freistaat Sachsen yn 1918 wedi i'r brenin Frederik August III gael ei ddiorseddu ac i Deyrnas Sachsen ddod i ben. Wedi'r Ail Ryfel Byd daeth yn rhan o Ddwyrain yr Almaen, ac yn 1952 fe'i rhannwyd yn dair rhan, Leipzig, Dresden a Chemnitz (a ail-enwyd yn "Karl-Marx-Stadt" yn ddiweddarach. Ail-ffurfiwyd y dalaith yn 1990 yn dilyn ad-uno'r Almaen.


Taleithiau ffederal yr Almaen Baner yr Almaen
Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sachsen | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen