Sorbeg

Oddi ar Wicipedia
Y rhannau o'r Almaen lle siaredir Sorbeg

Iaith Slafonaidd a siaredir gan y Sorbiaid mewn rhannau o ddwyrain yr Almaen yw Sorbeg. Mae'r iaith yn perthyn i ddosbarth yr Ieithoedd Slafonig Gorllewinol, ac mae tua 50,000 o bobl yn ei siarad, yn bennaf yn nwyrain talaith Sacsoni a de-ddwyrain talaith Brandenburg. Arferid cyfeirio at yr iaith fel Wendeg hefyd.

Ers yr Ail Ryfel Byd, mae wedi dod yn arferiad gwahanu'r iaith yn Sorbeg Uchaf a Sorbeg Isaf. Sorbeg Uchaf sydd a'r nifer fwyaf o siaradwyr, yn bennaf o gwmpas dinas Bautzen (Budyšin). Siaredir Sorbeg Isaf o amgylch Cottbus (Chośebuz).

Dyddia'r testunau ysgrifenedig cyntaf o'r 16g. Sorbeg a Slofeg yw'r unig ieithoedd Ewropeaidd sydd a ffurf ddeuol (dualis) yn ychwanegol at yr unigol a'r lluosog. Ystyrir bod y ddwy ffurf o'r Sorbeg yn ieithoedd mewn perygl o ddiflannu, oherwydd pwysau'r Almaeneg.