Thüringen
| Arwyddair | Hier hat Zukunft Tradition |
|---|---|
| Math | taleithiau ffederal yr Almaen |
| Enwyd ar ôl | Thuringi |
| Prifddinas | Erfurt |
| Poblogaeth | 2,161,000, 2,143,145, 2,110,396 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Mario Voigt |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, CET |
| Gefeilldref/i | Lesser Poland Voivodeship, Hauts-de-France, Hwngari |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 16,171 km² |
| Uwch y môr | 266 metr |
| Yn ffinio gyda | Niedersachsen, Sachsen-Anhalt, Sacsoni, Bafaria, Hessen, Lower Franconia |
| Cyfesurynnau | 51°N 11°E |
| DE-TH | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Thuringian state government |
| Corff deddfwriaethol | Landtag of Thuringia |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Minister-President of Thuringia |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mario Voigt |
![]() | |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.9281216 |
Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Thüringen. Saif yng nghanolbarth y wlad, ac roedd y boblogaeth yn 2007 yn 2,293,800. Prifddinas y dalaith yw Erfurt. Y ddinas ail fwyaf yw Jena, sy'n enwog am ei phrifysgol.
Mae cribau gorllewinol mynyddoedd yr Harz yn gwahanu'r dalaith oddi wrth dalaith Niedersachsen yn y gogledd-orllewin, tra mae cribau dwyreiniol yr Harz yn ei gwahanu oddi wrth Sachsen-Anhalt. Yn y de a'r de-orllewin mae Fforest Thüringen.
Enwyd y dalaith ar ôl llwyth y Thuringii, oedd yn byw yma tua 300 OC. Yn ddiweddarach, daeth i feddiant y Ffranciaid yn y 6g ac yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig.
Daeth Thüringen yn rhan o Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen yn 1949, ond cafodd ei diddymu yn 1952 yn ystod diwygiadau gweinyddol, a'i rhannu'n Ranbarthau Erfurt, Suhl a Gera. Ailsefydlwyd y dalaith yn 1990 ar ôl i'r Almaen gael ei hailuno, er bod ei ffiniau wedi'u hail-lunio ychydig.
