Drenthe
Gwedd
| Math | Taleithiau'r Iseldiroedd |
|---|---|
| Prifddinas | Assen |
| Poblogaeth | 491,792 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Mijn Drenthe |
| Pennaeth llywodraeth | Jetta Klijnsma |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Yr Iseldiroedd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,680.37 ±0.01 km² |
| Yn ffinio gyda | Overijssel, Niedersachsen, Groningen, Fryslân, Emsland, County of Bentheim |
| Cyfesurynnau | 52.917°N 6.583°E |
| NL-DR | |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | King's Commissioner of Drenthe |
| Pennaeth y Llywodraeth | Jetta Klijnsma |
![]() | |
Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Drenthe. Saif yn ne-ddwyrain y wlad, yn ffinio ar dalaith Groningen yn y gogledd, ar yr Almaen yn y dwyrain, ar dalaith Overijssel yn y de ac ar dalaith Fryslân yn y gorllewin. Assen yw prifddinas y dalaith.

Gwastadedd yw'r rhan fwyaf o'r dalaith, ond yn y gogledd-ddwyrain ceir bryniau isel yr Hondsrug, er nad yw'r pwynt uchaf yn y dalaith ond 40 medr uwch lefel y môr. Mae'r dalaith yn adnabyddus am ei chromlechi, beddau Neolithig a elwir yn hunebedden; o'r 53 enghraifft o'r rhain yn yr Iseldiroedd, mae 51 yn Drenthe. Ceir ychydig o olew a nwy yn y dalaith, ond amaethyddiaeth yw'r diwydiant pwysicaf, gyda cadw defaid yn arbennig o bwysig mewn rhannau.
| Taleithiau'r Iseldiroedd | |
|---|---|
| Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |

