Flevoland
| Math | Taleithiau'r Iseldiroedd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Lake Flevo |
| Prifddinas | Lelystad |
| Poblogaeth | 399,893 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Waar wij steden doen verrijzen... |
| Pennaeth llywodraeth | Arjen Gerritsen |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Yr Iseldiroedd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,419 km² |
| Gerllaw | Markermeer, IJsselmeer |
| Yn ffinio gyda | Noord-Holland, Utrecht, Overijssel, Fryslân, Gelderland |
| Cyfesurynnau | 52.5°N 5.7°E |
| NL-FL | |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | King's Commissioner of Flevoland |
| Pennaeth y Llywodraeth | Arjen Gerritsen |
![]() | |
Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Flevoland. Hi yw'r ieuengaf o ddeuddeg talaith yr Iseldiroedd, oherwydd crewyd y dalaith o'r tir a enillwyd trwy sychu rhan o'r Zuiderzee, gan gynnwys y cyn-ynysoedd Urk a Schokland.

Yn y gogledd mae'n ffinio ar Fryslân, ac yn y gogledd-ddwyrain ar Overijssel. Yn y gogledd-orllewin mae'n ffinio ar y Markermeer a'r Ijsselmeer. Yn y de-ddwyrain mae'n ffinio ar dalaith Gelderland, ac yn y de ar Utrecht a Noord-Holland.
Ceir dwy ran i'r dalaith: y Noordoostpolder, sy'n barhad o'r tir mawr, a'r Flevopolder, ynys wneuthuriedig fwyaf y byd. Cysylltir y Flevopolder a'r tir mawr gan bontydd a chob, yr Houtribdijk. Ar gyfartaledd, mae'r dalaith bum medr islaw lefel y môr. Y brifddinas yw Lelystad, ac ymhlith y dinasoedd eraill mae Almere a Dronten.
| Taleithiau'r Iseldiroedd | |
|---|---|
| Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |

