Lelystad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gorsaf reilffordd a bws Lelystad

Lelystad yw prifddinas talaith Flevoland yn yr Iseldiroedd. Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 73,793. Saif ger yr IJsselmeer a'r Markermeer.

Sefydlwyd y ddinas yn 1967, ar dir polder oedd wedi ei ennill oddi ar y môr. Enwyd hi ar ôl Cornelis Lely, oedd wedi bod yn gyfrifol am y gwaith adennill tir. Mae'r ddinas 5 medr islaw lefel y môr.

Flag of the Netherlands.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato