Zuiderzee

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r Iseldiroedd gan Johannes Janssonius (1658) yn dangos De Zuydir Zee

Bae o Fôr y Gogledd yn yr Iseldiroedd oedd y Zuiderzee. Rhannwyd ef yn ddau pan adeiladwyd yr Afsluitdijk, a orffennwyd yn 1932. Galwyd y rhan tu mewn i'r Afsluitdijk yn IJsselmeer, tra mae'r rhan allanol yn rhan o'r Waddenzee.

Dim ond tua hanner maint y Zuiderzee gwereiddiol yw'r IJsselmeer; mae'r gweddill wedi ei droi yn dir sych, y polder. Yn 1976, adeiladwyd yr Houtribdijk ar draws yr IJsselmeer, ac ail-enwyd y rhan i'r de-orllewin o hwn y Markermeer.

Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd yr ardal yma yn lynnoedd a elwid y Lacus Flevo. Bu llifogydd mawr yn 838, ac eto yn y 12fed a'r 13eg ganrif, a dim ond yr adeg honno yn daeth y Zuider Zee i fodolaeth fel môr. Daeth rhai o'r trefi ar ei lan, megis Kampen a Harderwijk yn borthladdoedd pwysig, ac roedd diwydiant pysgota sylweddol yma,

Datblygwyd cynllun i amgau a sychu'r Zuiderzee gan Cornelis Lely yn 1891, ac aeth y gwaith ymlaen dros gyfnod hir, gan ddechrau gydag adeiladu'r Amsteldiepdijk rhwng talaith Noord-Holland ac ynys Wieringen yn 1920. Wedi adeiladu'r Afsluitdijk, crewyd talaith Flevoland o'r tir sych newydd a grewyd, ac enwyd ei phrifddinas yn Lelystad.