Zuid-Holland
| Math | Taleithiau'r Iseldiroedd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Holand |
| Prifddinas | Den Haag |
| Poblogaeth | 3,577,032 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | anthem of South-Holland |
| Pennaeth llywodraeth | Jaap Smit |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Yr Iseldiroedd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3,418.5 ±0.01 km² |
| Yn ffinio gyda | Noord-Holland, Utrecht, Noord-Brabant, Zeeland, Gelderland |
| Cyfesurynnau | 52°N 4.67°E |
| NL-ZH | |
| Corff gweithredol | Provincial Executive of South Holland |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | King's Commissioner of South Holland |
| Pennaeth y Llywodraeth | Jaap Smit |
![]() | |
Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Zuid-Holland ("De Holland"). Saif yng ngorllewin y wlad, ger yr arfordir. Mae'r dalaith yn un o'r tiriogaethau mwyaf diwydiannol yn y byd, a'r dwysder poblogaeth ymhlith yr uchaf. Roedd y boblogaeth yn 3.46 miliwn yn 2006, gan wneud Zuid-Holland y fwyaf o daleithiau'r Iseldiroedd o ran poblogaeth.

Mae'n ffinio ar Zeeland yn y de, Noord-Brabant yn y de-ddwyrain a Gelderland ac Utrecht yn y dwyrain. Yn y gogledd mae'n ffinio ar Noord-Holland, tra mae'r môr ar yr ochr orllewinol. Hyd 1840 roedd Zuid-Holland a Noord-Holland yn un dalaith, Holland.
Dinasoedd
[golygu | golygu cod]Y ddinas fwyaf yn y dalaith yw Rotterdam, sy'n un o bothladdoedd pwysicaf Ewrop; tra mae prifddinas y dalaith, Den Haag, hefyd yn brifddinas llywodraeth yr Iseldiroedd ac yn gartref i'r llys cyfiawnder rhyngwladol. Dinasoedd pwysig eraill yw Dordrecht, Delft, Leiden, Alphen aan den Rijn a Gouda.
| Taleithiau'r Iseldiroedd | |
|---|---|
| Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |

