Gordian III

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gordian III
Bust Gordianus III Louvre Ma1063.jpg
Ganwyd 20 Ionawr 0225 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Chwefror 0244 Edit this on Wikidata (19 oed)
Circesium Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd ymerawdwr Rhufain, Ancient Roman senator Edit this on Wikidata
Mam Antonia Gordiana Edit this on Wikidata
Priod Tranquillina Edit this on Wikidata

Marcus Antonius Gordianus (20 Ionawr 22511 Chwefror 244), a adnabyddir fel Gordian III, oedd ymerawdwr Rhufain o 238 hyd 244

Ganed Gordian III yn fab i Antonia Gordiana, hithau'n ferch i Gordian I a chwaer i Gordian II. Roedd Gordian I, oedd yn broconswl Affrica, wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr Maximinus Thrax, wedi ei gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr ac wedi ei gadarnhau gan y Senedd fel ymerawdwr. Cymerodd ei fab, Gordian II, fel cyd-ymerawdwr. Fodd bynnag gorchfygwyd hwy gan lengoedd oedd yn parhau'n deyrngar i Maximinus. Lladdwyd Gordian II ar faes y gad, a lladdodd ei dad ei hun.

Enwodd y Senedd ddau ymerawdwr arall, Balbinus a Pupienus. Roedd y ddau yma'n amhoblogaidd yn Rhufain, a gorfodwyd hwy i enwi Gordian III fel olynydd, gan fod ei dad a'i ewythr ef wedi bod yn llawer mwy poblogaidd. Pan laddwyd Balbinus a Pupienus gan filwyr Gard y Praetoriwm daeth Gordian III yn ymerawdwr, yn ddim ond 13 oed, ar 29 Gorffennaf 238.

Penododd Gordian ei diwtor Timesteus yn bennaeth Gard y Praetoriwm, ac yn 241 priododd Furia Sabina Tranquilina, merch Timesteus. Tua'r adeg honno ymosododd yr Almaenwyr ar y ffiniau ar Afon Rhein ac Afon Donaw ac ymosododd y Persiaid dan Sapor I ar dalaith Mesopotamia, gan groesi Afon Ewffrates. Am y tro olaf mewn hanes, agorodd Gordian ddrysau teml Ianws a chychwynnodd tua'r dwyrain gyda'i fyddin. Llwyddodd i orchfygu'r Persiaid a'u gwthio i'r dwyrain o'r Ewffrates. Pan oedd wrthi'n paratoi cynlluniau pellach gyda Timesteus, bu hwnnw farw mewn amgylchiadau anhysbys.

Trosgwyddodd Gordian y swydd o bennaeth y Praetoriaid i Marcus Julius Phillipus (Philip yr Arab) ac aeth ymlaen a'r ymgyrch. Gwrthymosododd y Persiaid, ac yn ôl eu croniclau hwy gorchfygasant Gordian a'i ladd mewn brwydr ger Faluja (Irac). Yn ôl y ffynonellau Rhufeinig, fodd bynnag, nid oedd Gordian yn y cyffiniau hyn. Yn hytrach Philip yr Arab a'i llofruddiodd, a'i gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr.

O'i flaen :
Balbinus a Pupienus
Ymerodron Rhufain
Gordian III
Olynydd :
Philip yr Arab