Gordian I
| Gordian I | |
|---|---|
| Ganwyd | 159 Phrygia |
| Bu farw | 12 Ebrill 238 Carthag Rufeinig |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | person milwrol |
| Swydd | ymerawdwr Rhufain, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, quaestor, aedile, Conswl Rhufeinig |
| Tad | Maecius Marullus |
| Mam | Ulpia Gordiana |
| Priod | Fabia Orestilla |
| Plant | Gordian II, Maecia Faustina |
| Llinach | Gordian dynasty |
Marcus Antonius Gordianus Sempronianus Romanus Africanus (159 – 12 Ebrill 238) oedd ymerawdwr Rhufain am ran o'r flwyddyn 238.
Ychydig a wyddir am ei fywyd personol, ond credir bod ei deulu'n hanu o Frigia (Anatolia). Roedd o deulu ecwestraidd cyfoethog, a llwyddodd i godi ei safle ddigon i ddod yn aelod o'r Senedd. Roedd ganddo ddau blentyn, Marcus Antonius Gordianus (Gordian II) a Maecia Faustina a ddaeth yn fam Gordian III.
Astudiodd rethreg a llenyddiaeth yn ei ieuenctid cyn ymuno a'r fyddin a dod yn bennaeth Lleng IV Escita yn Syria. Yn 216 penodwyd ef yn rhaglaw Britannia, yna'n gonswl yn ystod teyrnasiad Heliogabalus. Ysgrifennodd gerdd epig dan y teitl Antoninias i anrhydeddu'r ymerawdwr Caracalla.
Yn ystod teyrnasiad Alexander Severus, penodwyd Gordian (oedd eisoes yn 80 oed) yn broconswl Affrica. Tra'r oedd yn y swydd hon, lladdwyd Alexander Severis gan Maximinus Thrax, a gyhoeddwyd yn ymerawdwr. Nid oedd Maximinus yn ymerawdwr poblogaidd, a bu gwrthryfel yn Affrica yn 238, a gychwynodd yn ninas El Jem, cartref Gordian ar y pryd. Cyhoeddwyd Gordian yn ymerawdwr gyda'r teitl Africanus ar 22 Mawrth y flwyddyn honno, gan gymeryd ei fab yn gyd-ymerawdwr fel Gordian II. Cararnhaoedd y Senedd yn Rhufain ef fel ymerawdwr.
Fodd bynnag, roedd Capelianus, rhaglaw Numidia, yn parhau'n ffyddlon i Maximinus, ac ymosododd ar Affrica. Gorchfygwyd Gordian, a lladdwyd ei fab Gordian II yn y frwydr. Lladdodd Gordian ei hun yn fuan wedyn trwy grogi ei hun â'i wregys, wedi teyrnasiad o ddim ond 36 díwrnod.

| Rhagflaenydd: Maximinus Thrax |
Ymerawdwr Rhufain 238 gyda Gordian II |
Olynydd: Pupienus a Balbinus |