Heliogabalus

Oddi ar Wicipedia
Heliogabalus
Ganwyd20 Mawrth 203 Edit this on Wikidata
Rhufain, Emesa, Velletri Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 222 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, High priest of Elagabalus Edit this on Wikidata
TadSextus Varius Marcellus, Caracalla Edit this on Wikidata
MamJulia Soaemias Edit this on Wikidata
PriodJulia Cornelia Paula, Aquilia Severa, Annia Faustina, Aquilia Severa Edit this on Wikidata
PartnerHierocles, Zoticus Edit this on Wikidata
PlantAlexander Severus Edit this on Wikidata
PerthnasauAlexander Severus Edit this on Wikidata
LlinachSeveran dynasty Edit this on Wikidata

Sextus Varius Avitus Basianus, mwy adnabyddus fel Heliogabalus (c. 204222) oedd ymerawdwr Rhufain o 218 hyd 222.

Ganed Heliogabalus yn Emesa, Syria, yn fab i Sextus Varius Marcellus a Julia Soaemias Bassiana. Roedd yn aelod trwy ei fodryb Avita Mamaea o deulu'r Severaid, a sefydlwyd gan yr ymerawdwr Septimius Severus. Roedd ei hynafiaid wedi bod yn offeiriaid y duw El-Gabal yn Emesa (Homs) heddiw). O hyn y daeth yr enw Heliogabalus.

Daeth yn ymerawdwr trwy fod ei nain, Julia Maesa, wedi llwgrwobrwyo y milwyr a lledaenu'r stori fod Heliogabalus yn fab gordderch i Caracalla. Cyhoeddodd y milwyr ef yn ymerawdwr ar 16 Mai 218. Ym mis Mehefin yr un flwyddyn gorchfygodd milwyr oedd yn cefnogi Heliogabalus filwyr yr ymerawdwr Macrinus mewn brwydr. Dienyddiwyd Macrinus, a daeth Heliogabalus yn ymerawdwr.

Roedd Heliogabalus yn ddilynydd y duwiau Ffenicaidd El-Gabal a Baal, a daeth a seremoniau i'w hanrhydeddu i Rufain. Ceisiodd sefydlu El-Gabal fel prif dduw y pantheon Rhufeinig dan yr enw Sol invictus ("Yr haul anorchfygol"). Priododd bum gwaith, gan gynnwys priodi un o'r gwyryfon Vestal, ond credir mai nid am resymau rhywiol y priododd. Roedd yn hoyw, a dywedir ei fod wedi cynnig swm mawr o arian i unrhyw lawfeddyg a allai ei droi yn ferch. Fodd bynnag ni allodd ddarganfod unrhyw lawfeddyg oedd yn barod i ymgymeryd a'r gwaith. Dywedir iddo syrthio mewn cariad a chaethwas o faintioli anferth o'r enw Heracles, ac ystyried penodi Heracles yn ymeradwr yn ei le, gydag ef ei hun ym ymerodres.

Roedd syniadau yr ymeradwr yn annerbyniol gan y mwyafrif o drigolion yr ymerodraeth a bu nifer o gynllwynion yn ei erbyn. Penderfynodd Julia Maesa ei bod yn bryd i'w ddiorseddu. Roedd gan Julia Maesa ferch arall, Julia Avita Mamaea, ac roedd ganddi hi fab 13 oed Alexander Severus. Llwyddodd i berswadio Heliogabalus i'w enwi ef fel ei etifedd, yna ceisiodd gynyddu poblogrwydd Alexandrus ymhlith y boblogaeth. Sylweddolodd Heliogabalus beth oedd ei bwriad, a gorchymynodd lofruddio Alexander, ond roedd Julia Maesa eisoes wedi llwgrwobrwyo'r milwyr. Lladdwyd Heliogabalus a'i fam Julia Soaemias ar 11 Mawrth 222, a thaflwyd eu cyrff i Afon Tiber.

Rhagflaenydd:
Macrinus
Ymerawdwr Rhufain
16 Mai 21811 Mawrth 222
Olynydd:
Alexander Severus