Colosseum
Gwedd
| Math | Amffitheatr Rufeinig, safle archaeolegol, atyniad twristaidd, stadiwm, archaeological artifact museum, Italian national museum, historical civil building museum, Museum of the Italian Ministry of Culture, roman ruins |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 81 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | archaeological park of Colosseum |
| Sir | Roma Capitale |
| Gwlad | Yr Eidal |
| Arwynebedd | 5,000 m², 30,000 m² |
| Cyfesurynnau | 41.8903°N 12.4922°E |
| Cod post | 00184 |
| Hyd | 187 metr |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Rufeinig |
| Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal |
| Sefydlwydwyd gan | Vespasian |
| Manylion | |
| Deunydd | trafertin Rhufain, twff, concrit |
Amffitheatr yn ninas Rhufain yn yr Eidal yw'r Colosseum neu Coliseum, (Eidaleg: Colosseo). Ei enw gwreiddiol oedd yr Amphitheatrum Flavium ("Amffitheatr y Flafiaid"). Y Colosseum yw'r amffithatr mwyaf a adeiladwyd yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.
Saif y Colosseum ychydig i'r dwyrain o Fforwm Rhufain. Dechreuwyd ei adeiladu gan yr ymerawdwr Vespasian rhwng 70 a 72 OC, a gorffennwyd y gwaith yn 80 yn nheyrnasiad ei fab, Titus. Gwnaed newidiadau i'r cynllun yn ystod teyrnasiad brawd Titus, Domitian 81-96).
Gallai'r Colosseum ddal tua 50,000 o wylwyr, a chafodd ei ddefnyddio am bron 500 mlynedd. Fe'i defnyddid ar gyfer ymladdfeydd gladiator a difyrrion eraill.

