Titus
| Titus | |
|---|---|
| Ganwyd | 30 Rhagfyr 0039 Rhufain |
| Bu farw | 13 Medi 0081 Aquae Cutiliae |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
| Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Praetorian prefect, Conswl Rhufeinig |
| Tad | Vespasian |
| Mam | Domitila'r Hynaf |
| Priod | Arrecina Tertulla, Marcia Furnilla |
| Partner | Berenice |
| Plant | Julia Flavia, Flavia |
| Llinach | Brenhinlin Flavia, Flavii Sabini |
Titus Flavius Vespasianus neu Titus (30 Rhagfyr 39 OC – 13 Medi 81 OC) oedd Ymerawdwr Rhufain o 24 Mehefin 79 OC hyd ei farwolaeth. Ganwyd Titus Flavius Vespasianus.
Titus oedd mab hynaf yr ymerawdwr Vespasian, a bu'n rhannu grym gydag ef am gyfnod. Ar farwolaeth ei dad daeth Titus yn ymerawdwr. Cyn i'w dad ddod yn ymerawdwr bu'n ymladd yn erbyn gwrthryfel yr Iddewon yn nhalaith Judea, a phan ddaeth Vespasian yn ymerawdwr a dychwelyd i Rufain gadawyd Titus i ddelio a'r gwrthryfel. Llwyddodd i gymeryd dinas Jerusalem ar ôl ei gwarachae am bum mis. Mae Bwa Titus yn Rhufain yn coffau ei fuddugoliaeth.
Yn ystod yr ymladd yn Judea syrthiodd Titus mewn cariad a Berenice, merch y brenin Herod Agripa I. Aeth a hi gydag ef i Rufain, ond oherwydd nad oedd poblogaeth Rhufain yn hapus ynglŷn â'r berthynas bu rhaid iddi roi'r gorau i'r syniad o'i phriodi. Eu perthynas yw thema'r ddrama "Titus a Berenice" gan Pierre Corneille a "Berenice" gan Jean Racine.
Daeth Titus yn boblogaidd iawn yn ystod ei deyrnasiad oherwydd ei haelioni. Ef oedd yn gyfrifol am orffen y gwaith ar y Colisewm, a gychwynwyd gan ei dad. Dilynwyd ef gan ei frawd Domitian.
-
Yr Amphitheatrum Flavium (y Colisewm)
-
Bwa Titus yn Rhufain
| Rhagflaenydd: Vespasian |
Ymerawdwr Rhufain 24 Mehefin 79 OC – 13 Medi 81 OC |
Olynydd: Domitian |