Ekaterinburg
| Math | city/town in Russia, dinas fawr |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Catrin I, tsarina Rwsia |
| Poblogaeth | 1,468,833 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Alexey Orlov |
| Cylchfa amser | UTC+05:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Yekaterinburg Municipality |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 468 km² |
| Uwch y môr | 237 metr |
| Gerllaw | Afon Iset |
| Yn ffinio gyda | Pervouralsk Urban Okrug, Degtyarsk Urban Okrug, Sredneuralsk Urban Okrug, Borough Upper Pyshma, Beryozovsky, Beryozovsky Urban Okrug, Beloyarsky District, Sysertsky District, Polevskoy Urban Okrug, Revda Urban Okrug |
| Cyfesurynnau | 56.8356°N 60.6128°E |
| Cod post | 620000–620999 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Yekaterinburg City Duma |
| Pennaeth y Llywodraeth | Alexey Orlov |
![]() | |
Un o brif ddinasoedd gorllewin Siberia (Rwsia) a chanolfan weinyddol Oblast Sverdlovsk a'r dalaith ffederal Ural yw Ekaterinburg (Rwsieg Екатеринбу́рг). Lleolir y ddinas i'r dwyrain i'r mynyddoedd Ural, ar lannau Afon Iset. Hon yw'r pedwaredd ddinas o ran maint poblogaeth yn Rwsia, a chanddi boblogaeth o 1,336,500 (amcangyfrif Ionawr 2006). Adnabyddid y ddinas fel Sverdlovsk rhwng 1924 a 1991, ar ôl yr arweinydd Bolsheficaidd Yakov Sverdlov.

Atyniad enwocaf y ddinas yw'r Eglwys ar y Gwaed (Eglwys yr Holl Seintiau), eglwys a adeiladwyd yn 2003 ar y man lle saethwyd tsar Rwsia olaf a'i deulu yn farw ym 1918. Y person enwocaf gyda chysylltiadau â'r ddinas oedd Boris Yeltsin, cyn-arlywydd Rwsia, oedd yn hanu o'r ardal ac a fu'n fyfyriwr mewn athrofa yno.
Lleolir nifer o gonsyliaethau tramor yn Ekaterinburg, rhai i'r Almaen, Fwlgaria, Prydain, Cirgistan, y Weriniaeth Tsiec, Tsieina a'r Unol Daleithiau.
Cludiant
[golygu | golygu cod]Mae Ekaterinburg yn sefyll ar Ffordd Ewropeaidd yr E22, sy'n ei chysylltu ag Ishim i'r dwyrain a Perm Moscfa, Riga, Malmö, Hamburg, Amsterdam, Leeds a Chaergybi draw yng Nghymru i'r gorllewin.
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]
|
