Sidon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Sidon
SidonNewCity.jpg
Mathdinas, dinas fawr, dinas hynafol Edit this on Wikidata
Poblogaeth200,000 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserEET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iConstanța, Sofia, Sochi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSidon District Edit this on Wikidata
GwladBaner Libanus Libanus
Arwynebedd7,000,000 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.5606°N 35.3758°E Edit this on Wikidata
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion
Y ddinas newydd o'r castell.

Dinas yn Libanus yw Sidon neu Saïda (Arabeg صيدا Ṣaydā; Ffeniceg Ṣydwn; Groeg: Σιδώνα). Saif ger y môr yn ne Libanus, tua 40 km i'r de o Beirut a 40 km i'r gogledd o Tyrus. Gyda poblogaeth o 200,000, hi yw'r drydedd dinas yn Libanus o ran maint.

Mae Sidon yn hen ddinas Ffenicaidd, efallai yr hynaf o ddinasoedd Ffenicia, gyda phobl yn byw yma o 4000 CC ymlaen. Gan wladychwyr o Sidon y sefydlwyd Tyrus, ac yn nes ymlaen bu cystadleuaeth ffyrnig rhwng y ddwy ddinas.

Am gyfnodau bu'r ddinas dan reolaeth yr Aifft, yna'n ddiweddarach yn rhan o Ymerodraeth Persia yna yn rhan o ymerodraeth Alecsander Fawr, brenin Macedon a'r Ymerodraeth Rufeinig. Cafodd Sidon gryn dipyn o ymreolaeth dan y Rhufeiniaid, gyda'r hawl i fathu ei harian ei hun. Dan yr ymerawdwr Elagabalus sefydlwyd colonia Rhufeinig yma gyda'r enw Colonia Aurelia Pia Sidon.

Cipiwyd y ddinas gan yr Arabiaid yn 636. Cipiwyd hi gan y Cristionogion yn 1110 yn ystod y Groesgad Gyntaf a daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Sidon, rhan o Deyrnas Jeriwsalem. Dinistrwyd hi gan y Mongoliaid yn 1260.