Bryn Celli Ddu

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bryn Celli Ddu
BrynCelliDdu3.jpg
Math Cromlech, safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn, Llanddaniel Fab Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.2079°N 4.2355°W Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw AN002 Edit this on Wikidata

Mae Bryn Celli Ddu yn siambr gladdu yn agos i arfordir deheuol Ynys Môn, rhwng Llanddaniel Fab a Llanedwen a gerllaw Afon Braint. Bu rhywfaint o ysbeilio yno yn 1699 a bu cloddio archeolegol yn 1928 a 1929.

Ymddengys fod cylch cerrig yma yn y cyfnod Neolithig, pan oedd cylch cerrig ar y safle. Roedd olion tân yn un man, a chafwyd hyd i asgwrn bychan o glust ddynol, a charreg wastad drosto.

Siambr gladdu Bryn Celli Ddu o hirbell.
Bryn Celli Ddu

Tua dechrau Oes yr Efydd, tua 3000 C.C., cafwyd gwared ar y cerrig ac adeiladwyd siambr gladdu. Roedd carreg wedi ei cherfio a llinellau yn sefyll yn y siambr ei hun. Symudwyd hon i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mae'r garreg sy'n sefyll tu allan i'r siambr heddiw yn gopi ohoni. Noder fod y pentwr pridd sy'n gorchuddio'r siambr heddiw wedi ei ail-godi yn yr 20g; mae'n debyg fod y gwreiddiol yn llawer mwy.

Archaeoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwaith ymchwil diweddar gan Steve Burrow, curadur archaeoleg Neolithig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn awgrymu fod y siambr wedi ei hadeiladu i gyd-fynd a safle'r haul. Ar y diwrnod hwyaf o'r flwyddyn mae'r haul yn tywynnu yn syth i mewn i'r siambr gladdu ei hun. Mae hyn yn cysylltu Bryn Celli Ddu a rhai siambrau claddu eraill megis Maes Howe a Newgrange, sydd wedi ei hadeiladu i gyd-fynd a safle'r haul ar y dydd byrraf.

Darganfyddiad diweddar arall yw y gall fod pum twll postyn ar y safle fod yn llawer hŷn na'r siambr gladdu a'r cylch cerrig. Dyddiwyd olion o ddau o'r tyllau i'r cyfnod Mesolithig (Pitts, 2006).

Gellir cyrraedd Bryn Celli Ddu trwy droi oddi ar ffordd yr A4080 gerllaw Llanedwen i gyfeiriad Llanddaniel Fab. Mae lle parcio ar y chwith, yna gellir croesi'r ffordd a dilyn llwybr o tua hanner milltir i'r siambr gladdu. Mae'r safle yng ngofal Cadw.

Delweddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Pitts, M. 2006. Sensational new discoveries at Bryn Celli Ddu. British Archaeology No. 89 (July/August): 6.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Bodowyr Siamberi Claddu ar Ynys Môn Sbiral triphlyg

Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd