Pant y Saer
Math | heneb gofrestredig, carnedd gellog |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanfair Mathafarn Eithaf |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.317502°N 4.238658°W |
Cod OS | SH5097182401 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN004 |
Mae Pant y Saer yn siambr gladdu gerllaw Benllech ar Ynys Môn sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig, tua 3000 C.C. i 2500 C.C. (cyfeiriad grid SH509824.). Mae'n siambr gladdu fechan, ac mae'r garreg uchaf wedi llithro tua'r dwyrain ac yn gorwedd ar ongl. Mae'r cerrig neu garreg ar yr ochr orllewinol wedi diflannu. Gelwir y math yma o siambr yn feddrod siambr (lluosog: beddrodau siambr) ac fe gofrestrwyd y feddrod hon fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: AN004.[1]
Bu cloddio archaeolegol yma yn 1875 ac yn 1932. Cafwyd hyd i weddillion 54 o bobl, gwŷr, gwragedd a phlant, yn y siambr, sy'n awgrymu ei bod wedi ei defnyddio dros gyfnod hir. Roedd rhai darnau o grochenwaith hefyd.
Gellir cyrraedd y safle wrth droi i'r chwith yng nghanol Benllech ar y ffordd B5108 i gyfeiriad Brynteg. Hanner milltir ymlaen mae llwybr cyhoeddus yn arwain rhwng dau dŷ, ac mae'r llwybr yma yn arwain heibio'r siambr gladdu, er nad yw'r arwyddion yn cyfeirio at y siambr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ||
---|---|---|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd | ||