Tŷ Newydd (siambr gladdu)
| Math | cromlech |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.235987°N 4.482431°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | AN013 |
Mae Tŷ Newydd yn siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig gerllaw Llanfaelog yng ngogledd-orllewin Ynys Môn.
Er bod y siambr wedi ei difrodi i raddau, a'r maen capan yn cael ei gynnal gan ddau biler diweddar, un o gerrig a'r llall o goncrid, mae digon ar ôl i ddangos fod Tŷ Newydd yn fedd cyntedd yn dyddio o ddechrau'r cyfnod Neolithig. Nid yw meini'r cyntedd yno bellach, ond gellir ei gweld mewn lluniau o ddechrau'r 19g. Mae'r maen capan yn awr yn llawer culach nag yr oedd yn wreiddiol; dywedir iddo hollti pan gyneuwyd coelcerth ar ben y maen i ddathlu pen-blwydd yn un o'r ffermydd cyfagos. Bu cloddio archaeolegol yma yn 1935, a chasglwyd o'r darganfyddiadau fod y siambr wedi parhau mewn defnydd am gyfnod hir.
Gellir cyrraedd Tŷ Newydd trwy adael Llanfaelog tua'r gogledd ddwyrain ar hyd yr A4080, a chymeryd y troed cyntaf i'r chwith (i gyfeiriad Bryngwran) wedi gadael y pentref. Mae'r arwydd yn dynodi lle mae'r siambr ar yr ochr dde ychydig dros chwarter milltir yn nes ymlaen.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
| Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ||
|---|---|---|
|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd | ||
