Din Lligwy

Oddi ar Wicipedia
Din Lligwy
Mathsafle archaeolegol, cylch cerrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3504°N 4.2595°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH497861 Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolprehistoric Britain Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwAN023 Edit this on Wikidata

Mae Din Lligwy (weithiau Din Llugwy) yn olion nifer o dai ac adeiladau eraill yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid ar arfordir dwyreinol Ynys Môn yn agos i bentref Moelfre, Ynys Môn; cyfeiriad grid SH497861.

Saif Din Lligwy ar fryn isel heb fod ymhell o'r môr. Tu mewn i fur amgylchynol mae sylfeini nifer o adeiladau, rhai ohonynt yn grwn a rhai yn hirsgwar. Mae olion gweithio haearn yn rhai ohonynt. Credir fod yr adeiladau crwn yn dai a'r rhai hirsgwar yn weithdai. Er ei fod yn is nag yr oedd yn wreiddiol, mae'r mur allanol mewn cyflwr da.

Cofrestrwyd yr olion hyn gan Cadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN023.[1] Bu cloddio archaeolegol yma, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau. Roedd rhai o'r rhain yn awgrymu fod y lle yn cael ei ddefnyddio yn y 4g OC, ond roedd hefyd dystiolaeth o adeiladau ar y safle cyn y rhai a welir, efallai yn dyddio i Oes yr Haearn. Cafwyd hyd i far o arian, crochenwaith wedi ei fewnforio ac eitemau gwydr.

Y farn gyffredinol o ystyried y darganfyddiadau hyn a'r tai crwn oedd fod Din Llugwy yn perthyn i uchelwr neu bennaeth brodorol oedd wedi ei ddylanwadu i ryw raddau gan ddiwylliant Rhufain ond yn parhau i gadw at bensaerniaeth draddodiadol yn bennaf. Mae'r safle yng ngofal Cadw. Gellir gweld nifer o hynafiaethau diddorol eraill gerllaw, Capel Llugwy o'r 12g a siambr gladdu Llugwy o'r cyfnod Neolithig.

Meddai CADW ar yr hysbysfwrdd (2010):

Yn ystod gwaith cloddio'r adeilad petrual pellaf, canfuwyd llawer o slag haearn, a oedd yn sylfaen lle tân y tu fewn iddo, gan awgrymu bod yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel gweithdy. Yn ogystal canfuwyd crochenwaith Brythonig-Rufeinig, pysgod cregyn, offeryn wedi ei wneud o asgwrn â rhiciau, ynghyd ag offer pigfain o esgyrn a dau ddarn o arian o'r 4g.

Cychwynwyd codi cytiau crynion tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion. Maen nhw i'w canfod yng Ngwynedd, Môn, Sir Conwy a Sir Gaerfyrddin.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Frances Lynch, Gwynedd: A guide to ancient and historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]